Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint (dolen gyswllt allanol) yn cydlynu ymateb gwirfoddolwyr i Covid19. Maent yn gweithio'n ddiflino i helpu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maent yn gwneud gwaith mor wych.
Cronfeydd mewn Argyfwng – CV-19 – Cefnogaeth Sefydliadau Gweithredu Cymunedol
Mae gan Grwpiau Gweithredu Lleol yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gronfeydd ar gael i gefnogi mentrau cymunedol, elusennau, grwpiau cymunedol ffurfiol a sefydliadau sector cyhoeddus yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i'w galluogi i addasu eu cefnogaeth gymunedol rheng flaen yng nghyd-destun sefyllfa bresennol y coronafeirws a’r sefyllfa sy’n newid yn barhaus.
Mae’r cronfeydd hyn ar gael drwy Cadwyn Clwyd.
Gall sefydliadau ymgeisio am hyd at £3000 o gostau cymwys i ddatblygu dulliau newydd o ddarparu cefnogaeth i wasanaethau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Donna Hughes – 01490 340500 neu donna.hughes@cadwynclwyd.co.uk
Rheoleiddwyr elusennau yn cyhoeddi canllawiau ar y coronafeirws
canllawiau wedi eu hanelu at ymddiriedolwyr Elusennau (dolen gyswllt allanol) yn ymwneud â gweithredu yn ystod sefyllfa'r coronafeirws ar gael gan y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r canllawiau yn cynnwys cefnogaeth ariannol sydd ar gael, cynnal cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn, rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol a chadw pobl yn ddiogel ayb.