Alert Section

Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint


Trwy broses 2 gam gystadleuol, mae Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus trwy dderbyn dyraniad o £1.178 miliwn o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn darparu’r Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint.

Beth yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?

Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion am y ffordd y byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithio. Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw cronfa newydd Llywodraeth y DU yn lle Cronfa Strwythurol yr UE a bydd yn darparu £2.6 biliwn o fuddsoddiad ar draws y DU tan fis Mawrth 2025.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn dyraniad o £13.1miliwn i’w fuddsoddi dros dair blynedd. Caiff hyn ei dorri lawr i ychydig o dan £11 miliwn o arian craidd a £2.2 miliwn ar gyfer y rhaglen ‘Multiply’ cenedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir y Fflint, y broses gystadleuol a dolenni at fwy o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Beth yw Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint?

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys 8 o brosiectau, sy’n alinio gyda ffocws Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gefnogir gan amcanion Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, sef:

  • Hybu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw trwy dyfu’r sector preifat, yn arbennig yn y llefydd hynny sydd ar ei hôl hi;
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yn y llefydd hynny lle maent wanaf;
  • Adfer synnwyr o gymuned, balchder lleol a synnwyr o berthyn, yn arbennig yn y llefydd hynny lle mae hyn wedi cael ei golli;
  • Grymuso arweinwyr lleol a chymunedau, yn arbennig yn y llefydd hynny sydd â diffyg asiantaeth leol

Er mwyn cyflawni hyn mae gan gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lleoedd
  • Cefnogi Busnesau Lleol
  • Pobl a Sgiliau

Pa brosiectau sy’n ffurfio Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint? 

1) Cynllun Grant Gwella Eiddo Canol y Dref

Mae’r prosiect hwn yn ceisio uwchraddio / gwella eiddo masnachol ar draws canol trefi yn Sir y Fflint trwy ddarparu cynllun grant.

Bydd Tîm Adfywio CSFf yn lansio ac yn hyrwyddo’r cynllun, goruchwylio’r gwaith o weinyddu’r cyllid grant ac yn cefnogi ymgeiswyr trwy broses ymgeisio ffurfiol, panel asesu grantiau, proses dyrannu grantiau ac yn monitro’r cynllun grant a’r  allbynnau/canlyniadau fesul eiddo.

Bydd y Tîm Adfywio yn cynghori ac yn cefnogi perchnogion eiddo gydag ymholiadau cychwynnol, cwmpasu/ datblygu prosiectau a gyda chamau ymgeisio’r prosiect i sicrhau bod y prosiectau sy’n cael eu cyflwyno ar gyfer cyllid yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r cynllun creu lleoedd / adfywio ar gyfer canol y dref.

Am fwy o wybodaeth am y Grant Gwella Eiddo Canol y Dref a’r broses ymgeisio ewch i Grantiau a Chyllid

2) Datblygu prosiectau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol 

Nod y prosiect hwn yw cyflawni gwaith datblygu megis astudiaethau dichonoldeb, uwchgynlluniau, achosion busnes ac adroddiadau technegol, a fydd yn llywio buddsoddiadau creu lleoedd/ adfywio canol trefi yn y dyfodol.

Bwriad y prosiect hwn yw hwyluso’r gwaith o lunio cwmpas cynlluniau a darparu manylion fesul prosiect ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud cyn symud ymlaen i’r cam gweithredu, a fydd yn rhoi argymhellion a chamau gweithredu i lywio’r ffordd ymlaen yn ogystal â’r costau/ buddion tebygol sydd i’w gwireddu.

Bydd y prosiect yn cynnwys bwrw ymlaen â blaenoriaethau sy’n deillio o’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi (ceir rhagor o wybodaeth ar Creu Lleoedd yn Sir y Fflint)

3) Buddsoddiad mewn Mannau Gwyrdd

Nod y prosiect hwn yw gweithredu gwelliannau a gosodiadau Isadeiledd Gwyrdd ar draws trefi yn Sir y Fflint.

Bydd y buddsoddiadau Isadeiledd Gwyrdd i’w darparu yn cynnwys mentrau megis plannu ar y strydoedd / waliau gwyrdd, gwelliannau i nodweddion pyrth allweddol a gwelliannau i’r parth cyhoeddus.

Bydd y gweithgareddau hyn yn elwa busnesau lleol, y cyhoedd a’r amgylchedd drwy helpu i gynyddu atyniad y trefi (ac yn ei dro, cynyddu nifer yr ymwelwyr, amseroedd aros a lefelau gwario yn y dref). 

4) Hyrwyddo ac Ymgysylltu Tîm Marchnadoedd Canol Trefi

Bydd y prosiect hwn yn cefnogi’r Tîm Marchnadoedd presennol i oruchwylio darpariaeth marchnadoedd tu mewn a thu allan yn nhrefi yr Wyddgrug a Threffynnon.

Bydd y prosiect hwn yn cefnogi darpariaeth o ddigwyddiadau a marchnadoedd artisan a all gael ei beilota mewn canol trefi eraill ar draws Sir y Fflint.

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddarparu ymgyrchoedd cyfathrebu / hyrwyddo wedi’i dargedu tuag at gefnogi defnydd cynyddol o’r marchnadoedd i gynyddu nifer yr ymwelwyr, gwariant a hyfywedd a bywiogrwydd y marchnadoedd.

Nod y prosiect yw darparu cefnogaeth uniongyrchol i fusnesau presennol a newydd a chwarae rôl allweddol i lunio strategaeth ar gyfer marchnadoedd yn y dyfodol yn Sir y Fflint.

5) Cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref (TCEAG) 

Mae’r prosiect yn ceisio darparu cyfle i bobl/sefydliadau lleol ddatblygu a darparu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n cyfrannu at fywiogrwydd cyffredinol canol trefi ledled Sir y Fflint.

Mae’r prosiect yn cynnwys cyflwyno cynllun grant sy’n cynnig isafswm o £500 ac uchafswm o £10,000 i ymgeiswyr tuag at ddigwyddiadau/gweithgareddau gyda buddiolwyr disgwyliedig yn cynnwys sefydliadau cymunedol/gwirfoddol, busnesau a chynghorau tref.

Bydd proses ymgeisio gystadleuol ar gyfer y grant i reoli’r cynllun hwn.

Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd CSFf yn asesu cynigion yr ymgeisydd o ran sut y byddant yn cynorthwyo i gynyddu ymgysylltiad ymysg pobl leol, archwilio sut y gellir defnyddio gofodau, tir ac eiddo yng nghanol y dref fel lleoliad ar gyfer y gweithgareddau/digwyddiadau arfaethedig, a’u gallu i gefnogi cynnydd yn nifer yr ymwelwyr a’r amser sy’n cael ei dreulio yng nghanol y trefi.

Bydd Tîm Adfywio CSFf yn lansio ac yn hyrwyddo’r cynllun, goruchwylio’r gwaith o weinyddu’r cyllid grant ac yn cefnogi ymgeiswyr (buddiolwyr) trwy broses ymgeisio ffurfiol, panel asesu grantiau, proses dyrannu grantiau ac yn monitro’r cynllun grant a’r allbynnau/canlyniadau.

Am fwy o wybodaeth am TCAEG a’r broses ymgeisio ewch i Grantiau a Chyllid

6) Datblygu’r Cynllun Creu Lleoedd 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran ystod o bartneriaid, sy’n seiliedig ar angen lleol bob canol tref ar draws Sir y Fflint.

Diben y Creu Lle yw cydlynu cynlluniau presennol a nodi materion a brofir gan bobl a lleoedd, fel mannau gwyrdd a chyhoeddus, siopau gwag, hygyrchedd ac anghenion tai a masnachol.  Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy broses o ymgynghori, digidol ac wyneb yn wyneb a bydd hefyd yn cael ei lywio gan ddata penodol i dref a dadansoddiad masnachol.

Mae’r prosiect hwn yn anelu i ddarparu adnoddau ychwanegol sy’n ofynnol i gwblhau datblygiad y Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer y saith Cynllun Creu Lleoedd ar draws Sir y Fflint fel sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru.  Mae trefi fydd â’r CCLl wedi ei ddatblygu yn cynnwys: Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Am fwy o wybodaeth ar y datblygiad a’r broses datblygu’r Cynllun Creu Lleoedd yn Sir y Fflint ewch i Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

7) Darpariaeth Cymorth i Fusnesau wedi’i Deilwra 

Nod y prosiect hwn yw ymgysylltu â busnesau a darparu cymorth a hyfforddiant un i un pwrpasol i fusnesau canol trefi, nad oes ganddynt ddigon o allu/ ymwybyddiaeth i barhau, datblygu a bod yn fwy llewyrchus.

Bydd y prosiect ar gael i fusnesau presennol a newydd yn y 7 canol tref canlynol: Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Bydd y prosiect hwn yn cael ei oruchwylio gan Dîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint, a bydd yn cynnwys comisiynu gwybodaeth arbenigol gan ddarparwyr cymorth i fusnesau allanol, sydd â llwyddiant blaenorol mewn darparu cymorth un i un i fusnesau bach tebyg mewn canol trefi, gan ganolbwyntio’n benodol ar gynyddu ymgysylltiad cyffredinol y gymuned fusnes.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ddarpariaeth Cymorth i Fusnesau, ewch i Ymgysylltu â Busnesau

8) Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mae’r prosiect hwn yn ceisio hyrwyddo’r hyn sydd ar gael ar draws canol trefi Sir y Fflint gan nodi’r ‘pethau gorau’ er mwyn annog pobl i ymweld, aros a gwario.

Mae hyn yn golygu cynnwys y gellir ei rannu gyda busnesau er mwyn helpu tyfu’r brand ‘siopa’n lleol’ a ‘siopa’n annibynnol’ ac adeiladu balchder lleol yn ein strydoedd mawr.

Bydd rhan o’r prosiect hefyd yn datblygu cynnwys i’w rannu gyda budd-ddeiliaid allweddol gan gynnwys ymwelwyr, trigolion, busnesau lleol a phartneriaethau er mwyn hyrwyddo’r hyn y gall canol trefi ei gynnig.

Pwy sy’n elwa o RhFCTSyFf?

Mae’r rhaglen o gefnogaeth yn cynnwys ystod o feysydd cefnogi, o fusnesau lleol, buddsoddiad mewn datblygiad canol tref er mwyn gwneud llefydd yn fwy atyniadol a hygyrch ar gyfer y gymuned a gweithio ar brosiectau i helpu annog buddsoddiad mewn trefi Sir y Fflint yn y dyfodol. 

Beth fydd Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint yn ceisio ei gyflawni?

  • Cymuned fwy ymgysylltiedig; sy’n awyddus i fod yn rhan o’r broses o lunio dyfodol canol eu trefi
  • Pobl leol yn cael synnwyr cryfach o le a chysylltedd i ganol eu trefi
  • Perchnogion busnes yn cael cymorth a chyngor i redeg eu busnesau ac estyn allan i farchnadoedd/cynulleidfaoedd newydd
  • Grwpiau cymunedol yn cael cyfle i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau i fodloni anghenion lleol a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr/pobl leol sy’n rhan ohonynt
  • Perchnogion Eiddo yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i wella eu hasedau yn defnyddio offer/cymorth ariannol sydd ar gael i gyflawni hyn
  • Gwell mannau gwyrdd ac asedau o fewn canol ein trefi sy’n arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr gan greu mwy o fywiogrwydd ac amrywiaeth
  • Cyfraniad cadarnhaol tuag at leihau carbon
  • Gwell parthau cyhoeddus/estheteg sy’n fwy deniadol i ddefnyddwyr canol y dref
  • Cynlluniau Creu Lleoedd wedi’u cwblhau i’w gweithredu ar gyfer y 10 mlynedd nesaf – byddant yn llywio darpariaeth, datblygiad a buddsoddiad gwasanaeth yn y dyfodol ar draws partneriaeth y sector cyhoeddus, preifat a chymunedol
  • Gwell ymgysylltiad rhwng CSFf a busnesau canol y dref, darparwyr gwasanaeth
  • Mwy o fuddsoddiad mewn adfywio wedi’i sicrhau – hwb i’r economi leol 

I gael mwy o wybodaeth wrth i’r rhaglen ddatblygu, gweler yr hyn yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd i gael y newyddion diweddaraf a chynnydd y prosiect.