Alert Section

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

Beth yw Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau (EPEC)?

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

Mae Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau (EPEC) yn brosiect cymunedol sy’n darparu grwpiau magu plant dan arweiniad rhieni lleol, a elwir yn Arweinwyr Grwpiau Rhieni. Mae’r rhieni sy’n arwain y grwpiau hyn wedi cymryd rhan mewn grŵp EPEC neu grŵp magu plant arall eu hunain ac wedi cwblhau’r hyfforddiant Arweinydd Grwpiau Rhieni EPEC.

Mae grwpiau EPEC yn cynnwys sgiliau ymchwil ac ymarferol i helpu teuluoedd a’u plant.  Drwy ein grwpiau, mae rhieni’n dysgu ystod o sgiliau magu plant cadarnhaol, derbyn cefnogaeth i ddeall teimladau plant, dysgu am gyfathrebu rhwng rhieni a phlant a meithrin perthnasoedd gwell a mwy cadarn o fewn y teulu. 

Yr hyn rydym ni’n ei gynnig yn Sir y Fflint

Mae ein grŵp cynyddol o Arweinwyr Grŵp Rhieni gwirfoddol yn cynnig y canlynol bob tymor: 

Bod yn Rhiant

  • Mae Sir y Fflint yn darparu’r grŵp hwn ar gyfer rhieni ag o leiaf un plentyn rhwng 2 a 7 oed. Cynhelir y grŵp am 2 awr yr wythnos am 8 wythnos a darperir crèche i’ch plant lle bo modd.
  • Mae’r grwpiau’n rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni eraill yn yr ardal a rhannu profiadau fel rhieni. Mae’r grwpiau hefyd yn gyfle i gyfarfod rhieni eraill sydd o bosibl yn mynd drwy brofiadau tebyg i chi a’ch helpu i ddeall nad ydych chi ar eich pen eich hunan.
  • Bob wythnos, rydym yn canolbwyntio ar bwnc gan gynnwys - deall teimladau, yr anghenion sy’n achosi ymddygiadau, bod yn rhiant a llawer mwy.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y grŵp neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y grŵp, llenwch y ffurflen a bydd rhywun yn cysylltu â chi. 

Cofrestru eich diddordeb

“Rwy’n mwynhau’r cwrs yn fawr, mae’n gyfle da i gwrdd â mamau eraill ac mae’n braf gwybod nad fi yw’r unig un sy’n teimlo fel hyn.  Mae wedi rhoi hwb i mi i fod yn onest, ac wedi gwneud i mi deimlo’n llai unig”

Babi a Ni

  • Ar gyfer rhieni â phlentyn rhwng 0 a 9 mis oed. Bydd y grŵp yn rhedeg am 2 awr unwaith yr wythnos am 8 wythnos. Mae croeso i’ch babis ymuno â ni yn y sesiynau hefyd.
  • Mae’r grwpiau’n rhoi cyfle i rieni yn Sir y Fflint gyfarfod rhieni eraill yn yr ardal a mwynhau paned a sgwrs gyda’i gilydd. Bydd y grŵp yn eich helpu i fagu hyder fel rhiant yn ogystal â dysgu am ddatblygiad eich babi.
  • Rydym yn canolbwyntio ar bwnc gwahanol bob wythnos, gan gynnwys - dod i adnabod personoliaeth eich babi, rheoli straen, gofalu am eich hunan a llawer mwy.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am y grŵp, llenwch y ffurflen a bydd rhywun yn ein tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi.

Cofrestru eich diddordeb

Arweinwyr Grwpiau Rhieni

  • Cynhelir bob grŵp EPEC gan Arweinwyr Grwpiau Rhieni hyfforddedig. Rydym yn cynnal yr hyfforddiant Arweinwyr Grwpiau Rhieni yma yn Sir y Fflint unwaith y flwyddyn (fel arfer yn ystod tymor mis Medi).
  • Mae’r hyfforddiant yn cynnwys 10 diwrnod llawn dros gyfnod o 10 wythnos ac mae crèche ar gael o bryd i’w gilydd.
  • Bydd rhieni hefyd yn datblygu’r wybodaeth, sgiliau a’r hyder gofynnol i hwyluso ein grwpiau i rieni eraill. Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu at rieni sydd wedi cymryd rhan mewn grŵp EPEC neu grwpiau magu plant eraill yn y gorffennol, gan ein bod yn ymwybodol o’r pwysigrwydd o gael profiad o’r grŵp yn gyntaf, ac mae nifer o rieni’n teimlo ei fod yn brofiad gwerthfawr iawn ac felly’n awyddus i rannu’r hyn a ddysgwyd ganddynt gydag eraill. Mae’n ffordd wych i ennill hyfforddiant a sgiliau ar gyfer cyflogaeth yn ogystal â pherthnasau!
Pa hyfforddiant a chefnogaeth fyddwch yn eu derbyn?
  • Hyfforddiant Arweinydd Grŵp EPEC 6-10 diwrnod 3 credyd, lefel 2 achrededig rhagarweiniol gyda chefnogaeth crèche.
  • Cyfle i fynychu hyfforddiant ychwanegol gyda’r Cyngor - Diogelu, Diogelu Data, Cam-drin Domestig a llawer mwy
  • Goruchwyliaeth barhaus bob yn ail wythnos i gynnal ansawdd, adolygiadau diogelu a materion cwrs.
  • Arsylwad goruchwyliwr o arferion Arweinwyr Grwpiau Rhieni a darpariaeth y cwrs.
  • Sesiynau datblygu parhaus i gyfnewid sgiliau, myfyrio ar arferion, ailystyried ac adolygu strwythurau a threfniant y cwrs, a chyd-ddylunio datblygiadau newydd.

Gobeithiwn ymestyn y cynnig wrth i ragor o rieni wirfoddoli a rhoi i’w cymunedau. Cofiwch gadw golwg!

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr hyfforddiant, llenwch y ffurflen drwy wasgu’r botwm isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi.

Cofrestru eich diddordeb

“Diolch… Rwyf wedi mwynhau’n fawr ac mor falch fy mod wedi cofrestru. Mae sylweddoli fy mod yn gallu gwneud hyn a chlywed adborth gan y rhieni wedi rhoi hwb enfawr i’m hyder. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y grŵp nesaf nawr.”

“Mae bod yn Arweinydd Grŵp Rhieni’n golygu cymaint i mi! Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi magu hyder, mae hefyd wedi fy helpu i ailymweld ag offer y cwrs a’u defnyddio’n barhaus”