Papurau Pwnc y Cynllun Datblygu Lleol
Mae’r Cyngor wedi paratoi set o18 o Bapurau Testun yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion a phynciau. Mae pob Papur Testun yn esbonio’r canllawiau perthnasol ar gyfer y testun dan sylw ac yn nodi’r problemau y bydd angen i’r Cynllun ymdrin â nhw, yn ogystal â’r polisïau posibl y gellid eu cynnwys yn y Cynllun. Nod y Papurau Testun yw rhoi cyfle i randdeiliaid a’r cyhoedd gyfrannu at y Cynllun ar ddechrau’r broses drwy nodi materion y dylai’r Cynllun fod yn ymdrin â nhw ac awgrymu sut y dylid gwneud hynny.
Gwahoddir sylwadau ar y Papurau Pwnc am gyfnod ymgynghori o 6 wythnos yn dechrau ar Ddydd Llun 9 Mawrth ac yn gorffen ar Ddydd Llun 20 Ebrill 2015. Mae’r Papurau Testun hefyd ar gael i’w gweld yn Swyddfeydd y Sir ac yn y llyfrgelloedd. Dylid anfon sylwadau drwy’r e-bost at developmentplans@flintshire.gov.uk neu drwy’r post at Reolwr y Strategaeth Gynllunio, Adran yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch linell gymorth y CDLl ar 01352 703213.
Welsh currently being prepared. Please see English.