Alert Section

Cynnig Gofal Plant Cymru - i Blant 3 to 4 oed (30 awr)


Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o Addysg Gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 i 4 oed ar draws Cymru am 48 wythnos y flwyddyn.

Childcare Offer for Wales

AMAE CEISIADAU AR AGOR AR GYFER IONAWR 2025

Mae’n bosibl y bydd plant â dyddiad geni 01/09/2021 – 05/01/2022  yn gymwys i gael cyllid – gellir dod o hyd i’r cais yma:

Ymgeisiwch nawr

Bydd ceisiadau ar gyfer Ebrill 2025 yn agor ar 12 Chwefror 2025.

Gall plant â dyddiadau geni rhwng 06/01/2022 - 27/04/2022 fod yn gymwys i gael cyllid.

Sylwch fod y dyddiadau cymhwyso hyn yn berthnasol i blant sy'n byw yn Sir y Fflint yn unig.

Ehangu'r Cynnig Gofal Plant i rieni cymwys mewn addysg neu hyfforddiant

Byddai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i'r Cynnig o'r adeg y mae eu cwrs yn dechrau:

Diffiniad o riant mewn addysg neu hyfforddiant;  gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai:

  • Wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell.
  • Wedi cofrestru ar gwrs sy'n 10 wythnos o leiaf ac sy'n cael ei gyflwyno mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a gyflwynir drwy ddysgu o bell

Mae’r cais hwn am ORIAU GOFAL PLANT y Cynnig Gofal Plant YN UNIG - i wneud cais am Addysg Cyfle Cynnar neu addysg Feithrin ar gyfer Wrecsam neu Sir Ddinbych, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at ceisiadaucynniggofalplant@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 03000 628 628

Os ydych angen cymorth i lenwi’r cais ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Sir y Fflint peidiwch ag oedi rhag galw heibio un o’n canghennau/canolfannau ‘Cysylltu’ lle mae ganddyn nhw gyfrifiaduron hunanwasanaeth a chynghorwyr cysylltu sydd ar gael i gynnig cefnogaeth ddigidol. 

Gweler here i gael gwybod lle mae eich cangen/canolfan Cysylltu lleol a’r oriau agor.