Mae oddeutu 500 o eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint; mae'r Grant Eiddo Gwag yn fenthychiad i helpu perchnogion i ailddefnyddio eiddo gwag.
Mae'r grant ar ffurf benthyciad di-log sy'n talu am waith i sicrhau fod yr eiddo yn cyrraedd y Safon Tai Gweddus. Er enghraifft, gwaith i wella eiddo sydd mewn cyflwr difrifol wael, darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern, gwella systemau gwresogi ac insiwleiddio, a chael gwared ar unrhyw beryglon difrifol a allai effeithio ar les y meddiannydd, megis lleithder, grisiau peryglus neu wifrau trydanol.
- Uchafswm: £35,000 i bob uned o adeiladau(uchafswm o £150,000 i bob ymgeisydd).
- Mae'r Cyngor yn berchen ar gyfran o'r eiddo a ad-delir os caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo cyn pen 2-5 blynedd.
- Ar gyfer y rheiny sydd wedi bod yn berchnogion am 6 mis a mwy, sicrhau fod eiddo preswyl gwag yn cyrraedd safonau gosod tai.
Meini Prawf Cymhwysedd | Amodau | Swm |
- Mae gan yr ymgeisydd fuddiant perchennog
- Rhaid i'r ymgeisydd gael digon o ecwiti yn ei eiddo i gwmpasu swm y benthyciad neu rhaid iddo/iddi gynnig gwahanol eiddo sydd â digon o ecwiti i'w warantu
- Rhaid i eiddo'r ymgeisydd fod yn eiddo gwag hirdymor (dros 6 mis)
|
- Rhaid i denant fod yn yr eiddo nes i'r benthyciad gael ei ryddhau neu nes iddo gael ei werthu
- Ar ôl cwblhau'r gwaith, rhaid i'r eiddo fod yn breswyliadwy a rhaid iddo gyrraedd y safon gosod tai (dim peryglon categori 1)
- Rhaid cael yswiriant adeiladau ar yr eiddo nes i'r benthyciad gael ei ad-dalu
|
- Uchafswm o £35,000 yn amodol ar brofion cymhwysedd ac asesiadau benthyciadau
- Mae'r Cyngor yn berchen ar gyfran o werth yr eiddo, am gost y gwaith
- Caiff y benthyciad ei ad-dalu pan gaiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo (hyd mwyaf y benthyciad yw 2 flynedd ar gyfer gwerthu a 5 blynedd ar gyfer rhentu)
- Gellir gwneud ad-daliad cynnar gwirfoddol ar unrhyw adeg
|
Gwneud cais ar-lein