Alert Section

COVID-19 - cyhoeddiadau ysgol


 

 

Trefniadau’r Ysgolion – Ionawr 2022 (a gyhoeddwyd 17 Rhagfyr 2021)

Mae Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi rhoicyfarwyddyd heddiw i bob ysgol yng Nghymru ddechrau tymor y gwanwyn ym misIonawr gyda dau ddiwrnod cynllunio.

Darganfod mwy https://www.siryfflint.gov.uk//cy/PDFFiles/Covid-19/Schools-Dec-2021/January-2022-Arrangements-Parents-Letter.pdf 

COVID-19 – trefniadau diwedd tymor (a gyhoeddwyd 14 Rhagfyr 2021)

Mae cyfraddau haint Covid-19 yn Sir y Fflint wedi bod yn cynyddu’n gyson dros yr wythnosau diwethaf. Ddydd Gwener 10 Rhagfyr, cyrhaeddodd y gyfradd heintiau 558.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth, ac er bod hyn yn is na chyfartaledd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sef 611.2, mae’n uwch na chyfartaledd Cymru gyfan sef 501.9 fesul 100,000 o’r boblogaeth.

Mae cyfraddau haint y Coronafeirws yn effeithio ar nifer o ysgolion ac mae cynnydd cyflym o ran nifer absenoldebau’r gweithlu oherwydd Covid-19 a ffactorau eraill yn cael effaith gynyddol bellach, gyda nifer o Benaethiaid yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd cynnal lefelau staffio digonol. Mae rhai o ysgolion Sir y Fflint eisoes wedi gorfod cau dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn er mwyn rheoli’r sefyllfa’n ddiogel. Prin iawn yw nifer y staff cyflenwi sydd ar gael, nid yn unig yn Sir y Fflint, ond ar draws Cymru, ac mae hyn yn ychwanegu at y pwysau.

Mae’r ffactorau hyn, a’r amrywiolyn newydd sy’n achosi pryder sydd wedi dod i’r amlwg yn y DU wedi arwain at y Cyngor yn penderfynu cynghori pob ysgol i ailgyflwyno dysgu cyfunol o ddydd Llun, 20 Rhagfyr i ddydd Mercher, 22 Rhagfyr, pan ddaw tymor yr hydref i ben yn swyddogol. Mae rhai ysgolion wedi defnyddio diwrnodau hyfforddiant neu’r hawl i Ŵyl Banc i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm er mwyn gorffen ar 21 Rhagfyr, tra’r oedd eraill wedi trefnu i orffen ar 22 Rhagfyr.

Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard

“Bydd y penderfyniad hwn – y mae penaethiaid yn ei gefnogi – yn caniatáu i staff ddefnyddio dull cyfun i ddarparu addysg, wrth roi disgresiwn i benaethiaid wahodd grwpiau o ddysgwyr i ddod i’r ysgol ar gyfer dysgu wyneb i wyneb lle bo’r gofyn, yn enwedig grwpiau sydd mewn blwyddyn arholiadau mewn ysgolion uwchradd. 

Caiff plant gweithwyr allweddol a phlant diamddiffyn fynd i’r ysgol yn ystod ychydig ddiwrnodau olaf y tymor (yn ôl calendr eu hysgol) os na ellir gwneud trefniadau amgen. Caiff rhagor o wybodaeth am drefniadau eu chyhoeddi’n uniongyrchol i rieni gan benaethiaid. Nid ar chwarae bach y daethpwyd i’r penderfyniad hwn. Mae’r Cyngor yn disgwyl i’r sefyllfa o ran y gweithlu waethygu wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen, felly mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud rŵan er mwyn rhoi gymaint o amser ag sy’n bosibl i rieni a gofalwyr wneud trefniadau.”

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts, 

“Bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwneud beth bynnag mae’n credu sy’n angenrheidiol i ddiogelu ein plant, ein staff a’n cymunedau. Mae achosion o’r Coronafeirws wedi cynyddu’n sylweddol ac o ganlyniad, mae nifer absenoldebau staff mewn ysgolion wedi cynyddu. Mae hyn yn cynnwys athrawon, ac amrywiaeth eang o staff cymorth hefyd. 

Bydd ein pobl ifanc yn parhau â’u haddysg gan newid i ddysgu cyfunol ar gyfer ychydig ddiwrnodau olaf y tymor. Rydym yn rhannu pryderon y llywodraeth am amrywiolyn Omicron, ac rydym yn ymwybodol bod nifer o rieni a staff yn hynod o bryderus. Mae’n rhaid i ni ystyried lles pobl ar ôl blwyddyn anodd iawn.

“Mae ein tîm addysg yn parhau i weithio’n agos gyda phenaethiaid a’r holl staff mewn ysgolion, a hoffwn ddiolch i staff ein hysgolion, cyrff llywodraethu a rhieni am eu gwaith a’u gofal parhaus yn ystod cyfnod anodd iawn.”

Yn y cyfamser, mae’n hanfodol ein bod i gyd yn dilyn y rhagofalon syml ond angenrheidiol, felly cofiwch:

  • gwisgwch fasg pan fo angen 
  • ewch am brawf a hunan-ynysu os oes angen
  • ewch i gael y brechlyn
  • gadewch awyr iach i mewn i fannau dan do 
  • cymerwch brofion LFT rheolaidd gartref