Manylion gwasanaethau sy’n cynnig cymorth i bobl ifanc sydd wedi colli aelod o’r teulu. Mae’n rhestru dolenni cyswllt i wefannau sy’n cynnwys straeon gan eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
Lleol
Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu
Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 547017
GGiDSyFf@siryfflint.gov.uk
Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu yn ffynhonnell gwybodaeth sydd â manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi ar gyfer pob agwedd ar fywyd teulu. Mae gennym lawer o fanylion am help ar gyfer materion cyffredin y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.
Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod gofal plant, gweithgareddau gwyliau ysgol, gwasanaethau hamdden a swyddi gwag. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am fudiadau a llinellau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr ifanc.
Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gyfrinachol. Os na allwn ni eich helpu chi'n hun, mae'n bosib y gallwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â mudiadau eraill sy'n gallu cefnogi eich anghenion.
Cefnogaeth Profedigaeth Release
Ewch i Wefan
Tŷ'r Eos
Ffordd Caer
Wrecsam
LL11 2SJ
01978 316800
anna.perkin@new-tr.wales.nhs.uk (bydd yn creu e-bost)
Mae Release yn wasanaeth arbennig ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd wedi dioddef marwolaeth rhywun yr oeddent yn ei garu. Rydyn ni'n gwybod y gallech chi fod yn teimlo'n ypsét, yn ddryslyd neu'n flin – fe wnawn ein gorau i helpu sut bynnag y gallwn.
Gallwn roi cefnogaeth mewn sesiwn un-wrth-un neu mewn sesiwn teulu. Rydyn ni'n cynnal sesiynau grŵp efo pobl ifanc eraill sydd wedi wynebu'r un profiadau, ac mae hynny'n creu cyfle i dderbyn help yn ogystal â'i roi i eraill.
Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â gwasanaethau eraill a allai eich helpu chi a'ch teulu, fel ei gilydd. Gofynnwch i ni, a byddem ond yn rhy barod i roi manylion ynglŷn â'r gwasanaethau hyn i chi.
Cenedlaethol
Cruse
Ewch i Wefan
Llinell gymorth Rhif ffôn: 0844 477 9400
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor:
Dydd Llun – dydd Gwener 9:30am - 5:00pm
Sefydlwyd Cruse yn benodol er mwyn cefnogi pobl sy'n ymdopi â phrofedigaeth a galar. Rydyn ni'n gwybod pa mor galed y mae hi'n gallu bod pan fydd rhywun agos atoch yn marw. Mae'n iawn i chi deimlo'n ddig, yn ypsét, yn ddryslyd, neu amrywiaeth o emosiynau eraill. Nid un ffordd sydd yna i ddelio â marwolaeth.
Mae'r bobl sy'n ateb y ffonau hefyd wedi wynebu profedigaeth - felly mae 'na gyfle da y byddan nhw'n gwybod beth rydych chi'n mynd drwyddo. Byddwn yn cadw unrhyw beth a ddywedwch wrthym ni'n gwbl gyfrinachol. Wnawn ni ddim dweud wrth neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny.
Mae ein llinell gymorth yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Beth bynnag rydych chi eisiau - sgwrs gyffredinol â chlust gyfeillgar neu wybodaeth am wasanaethau eraill a allai eich helpu – ffoniwch ni. Dim ots beth ddywedwch chi wrthym ni, wnawn ni ddim barnu. Rydyn ni'n credu mai'r ffordd orau i chi symud ymlaen ydy gwneud eich penderfyniadau eich hun. Wnawn ni ddim dweud wrthych chi beth i'w wneud – yr unig beth a wnawn ni ydy rhoi syniadau ac opsiynau i chi ddewis eich llwybr eich hun.
The Road for You
Ewch i Wefan
Mae The Road for You yn wefan arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd wedi colli rhywun agos atyn nhw. Mae pawb yn adweithio'n wahanol i farwolaeth - dydyn ni ddim yma i ddweud wrthych chi sut dylech chi fod yn ymddwyn neu’n teimlo.
Rydyn ni'n credu mewn rhoi help i chi ganfod eich ‘ffordd’ eich hun o ddelio â'ch colled. Os oes rhywun rydych chi'n ei nabod wedi marw, yn ddiweddar, neu hyd yn oed beth amser yn ôl, gallech ddefnyddio ein safle i weld sut mae pobl eraill yn yr un sefyllfa â chi wedi ymdopi. Gallwch ddarllen eu profiadau yn yr adran bersonol (ffenestr newydd). Ar ein negesfyrddau, gallwch rannu eich meddyliau a'ch teimladau, cynnig cyngor i eraill, a chael syniadau ar gyfer ymdopi pan rydych chi'n teimlo'n ypsét. Gallwch hefyd gofnodi eich emosiynau ar ein llinell amser, neu bostio llun er cof am rywun yr oeddech yn ei garu.
Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi ar ein safle, mae croeso i chi anfon e-bost atom.
Winston’s Wish
Ewch i Wefan
Yma yn Winston’s Wish, rydyn ni'n gwybod bod rhaid eich bod yn teimlo cymysgedd o emosiynau ar ôl marwolaeth rhywun agos, a gall hyn yn aml eich gadael yn teimlo'n flin, yn ddryslyd neu'n ypsét. Ar ein gwefan, bydd Doctor Doug yn eich helpu i ddod o hyd i'r atebion i'r holl gwestiynau a allai fod gennych chi pan fu farw'r person.
Mae gan y wefan hefyd negesfyrddau lle gallwch sgwrsio â phobl ifanc eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg. Ceir syniadau ar gyfer pethau i'w gwneud ar ddiwrnodau fel Sul y Mamau, Sul y Tadau, pen-blwyddi a dyddiadau arbennig. Mae gennym gyngor am sut i wneud i'r atgofion bara drwy greu seren yn ein Hawyrlun o atgofion, creu jar o atgofion neu sgriblo meddyliau a theimladau ar y wal graffiti.
Mae croeso i chi e-bostio unrhyw gwestiynau aton ni, unrhyw bryd, ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.