Alert Section

Dewiswch y grŵp sydd fwyaf perthnasol i'ch pryder:


Rhieni Ifanc

Mae’n darparu gwybodaeth am ffynonellau cymorth i rieni ifanc. Mae’n cynnwys manylion cyswllt sefydliadau sy’n gallu cynorthwyo, cynghori a threfnu cyswllt â theuluoedd tebyg.

Lleol

Rhieni Cymunedol

Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 545021

Mae Rhieni Cymunedol Sir y Fflint yn rhaglen ymweld â chartrefi. Fe'i cynlluniwyd i alluogi teuluoedd i wneud dewisiadau sy'n addas ar eu cyfer hwy, a gwella canlyniadau iechyd. Mae'r prosiect ar agor i unrhyw un sy'n rhiant neu'n ofalwr i un neu fwy o blant - beth bynnag y bo eu hoedran a'u hamgylchiadau.

Wrth ymuno â'r rhaglen, byddwch yn cael ymweliad gan riant arall am sgwrs gyfeillgar ac anffurfiol. Byddwch yn gallu rhannu pryderon, gofidiau a syniadau am fagu plant, a hynny yn gyfrinachol. Gellir trefnu ymweliadau pellach, efo'r un rhiant neu riant arall, yn ôl eich dymuniad.

Ein gobaith, wrth gysylltu rhieni â'i gilydd, yw lleihau ynysu, hyrwyddo lles cymdeithasol a magu hyder. Mae gennym hefyd fanylion am wasanaethau eraill a allai eich cefnogi, a gallwn eu rhoi i chi, dim ond i chi ofyn.

Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu

Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 547017

GGiDSyFf@siryfflint.gov.uk

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu yn ffynhonnell gwybodaeth sydd â manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi ar gyfer pob agwedd ar fywyd teulu. Mae gennym lawer o fanylion am help ar gyfer materion cyffredin y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod gofal plant, gweithgareddau gwyliau ysgol, gwasanaethau hamdden a swyddi gwag. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am fudiadau a llinellau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr ifanc.

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gyfrinachol. Os na allwn ni eich helpu chi'n hun, mae'n bosib y gallen ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â mudiadau eraill sy'n gallu cefnogi eich anghenion.

Cenedlaethol

Baby Centre

Ewch i Wefan

Yn y Baby Centre, rydyn ni'n gwybod nad ydy bod yn rhiant yn hawdd bob amser. Os ydych chi'n rhiant ifanc, mae'n bosib y gwelwch y bydd y newidiadau o'ch blaen hyd yn oed yn fwy anodd. Peidiwch â phanicio, rydyn ni yma i helpu.

Mae ein hadran Rhieni Ifanc yn cynnwys llwyth o gyngor arbenigol. Ceir cynghorion ynglŷn â chael beichiogrwydd iach, sut bydd eich corff yn newid dros y misoedd i ddod - a sut i leihau’r straen o ddod yn rhiant newydd. Ceir cyngor am beth i'w wneud ar ôl i'ch babi gyrraedd, a gallwch ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych i'n harbenigwyr preswyl.

Ceir hefyd lu o straeon gan rieni ifanc eraill. Os oes angen cefnogaeth arnoch chi gan bobl ifanc sy'n gwybod yn union beth rydych chi'n mynd trwyddo, ein bwletin negeseuon ydy'r lle i chi.

Net Mums

Ewch i Wefan

Mae Netmums yn rhwydwaith lleol unigryw ar gyfer Mamau a Thadau sy'n cynnig stôr o wybodaeth ar lefel leol a chenedlaethol.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar eich safle lleol, gallwch gael manylion am bob math o adnoddau, o gaffis sy'n croesawu plant i warchodwyr, llefydd i fynd, a llawer, llawer mwy. Clic neu ddau, a gallwch sgwrsio â mamau lleol yn eich caffi coffi, darllen argymhellion lleol mamau eraill a darllen gwybodaeth am ddarpariaeth cyn-ysgol neu ysgolion yn eich ardal. Mae'r cyfan yma, dan un to. Mae gennym hefyd ein tîm cefnogi rhieni preswyl, sy'n barod i helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau a allai fod gennych.

Rydyn ni'n gwybod pa mor anodd yw bod yn rhiant weithiau – mae'n bosib eich bod yn teimlo'n flinedig, dan straen neu'n unig. Drwy ein gwefan, ein gobaith ydy eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill sy'n gallu eich helpu, yn enwedig y rheiny sydd mewn sefyllfa debyg sy'n gwybod yn union beth rydych chi'n mynd trwyddo. Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi ar y safle, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni, ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.

Support Line

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 01708 765200
Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Yn amrywio – ffoniwch am fanylion

Yn Llinell Cefnogi, rydyn ni'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl o bob oed. Mae ein horiau agor yn amrywio - ond os ydych chi'n ffonio pan ydyn ni ar gau, bydd neges leisbost yn dweud wrthych chi pryd fyddwn ni'n agor nesa.

Mae unrhyw beth a ddywedwch chi wrthym ni'n gyfrinachol. Wnawn ni ddim rhoi eich manylion i neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny. Mae ein holl weithredwyr yn gyfeillgar, a byddwn yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud wrthym ni.

Byddwn yn gweithio â chi i geisio datblygu eich hunan-barch, gan roi i chi'r cryfder mewnol a'r gallu i symud ymlaen yn eich bywyd. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu i chi archwilio'r mater yn llawnach, a chanfod eich ateb chi eich hun i wella'r sefyllfa. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am wasanaethau eraill o bobl rhan o'r Deyrnas Unedig a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Pobl Ifanc Mewn Gofal

Manylion ffynonellau cymorth i bobl ifanc mewn gofal. Mae’n cynnwys gwybodaeth am grwpiau cymorth lleol, ynghyd â gwefannau a llinellau cymorth cyfrinachol.

Lleol

Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant

Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar gyfer Plant
Swyddfeydd y Sir
Rhodfa Gwepra
Cei Connah
Sir y Fflint
CH5 4HB
01352 701000

Mae Gwasanaethau ar gyfer Plant yn rhoi manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi lleol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc. Os oes gennych chi broblem a'ch bod yn chwilio am wybodaeth a chymorth pellach i'w goresgyn - rhowch alwad i ni.

Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a rowch chi i ni yn gwbl gyfrinachol. Mae ein staff yn groesawgar ac yn cydymdeimlo â'ch anghenion, beth bynnag y bônt - mae gennym wybodaeth am wasanaethau iechyd a chefnogaeth emosiynol. Rydyn ni wedi arfer â delio am amrywiaeth o ymholiadau, felly peidiwch â theimlo embaras, da chi. Does yr un cwestiwn rhy fawr na rhy fach.

Ac os na allwn ni helpu, am ryw reswm, mae gennym ni gysylltiadau â gwasanaethau eraill a allai eich helpu.

Cenedlaethol

ChildLine

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 0800 1111
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Nac ydy
Oriau Agor: Bob amser ar Agor

Mae ChildLine yn llinell gymorth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Pan fyddwch yn ein ffonio ni, gallwch siarad â rhywun sy'n poeni am eich problemau. Mae'r cwnselwyr i gyd wedi derbyn hyfforddiant – mi wnawn ni wrando arnoch chi a cheisio eich helpu.

Mae galwadau i ChildLine yn gyfrinachol - gallwch siarad am unrhyw beth y mynnwch chi, ac ni wnawn ni ddweud dim wrth neb arall, os nad ydych chi eisiau i ni ddweud. Ni fydd eich cwnselydd ChildLine yn cymryd unrhyw gamau, heblaw eu bod yn teimlo bod eich bywyd mewn perygl. Os ydych chi'n ofnus, neu'n teimlo allan o reolaeth, mae hynny'n ffein. Gallwch ddweud wrthym ni.

Mae siarad yn agored am broblemau neu siarad am eich teimladau'n gallu bod yn wirioneddol anodd, ond dyna'r peth iawn i'w wneud. Meddyliwch gymaint gwell y byddwch chi'n teimlo os ydych chi'n gallu siarad am y peth yn gyfrinachol â rhywun. Ein gwaith ni ydy gwrando arnoch chi, ac weithiau eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall sy'n gallu eich helpu - os ydych chi'n fodlon.

The Site

Ewch i Wefan

Mae TheSite.org yn anelu at fod y man cyntaf y mae pobl ifanc yn troi ato pan fydd angen cefnogaeth ac arweiniad arnyn nhw. Mae'n credu y dylech wneud eich penderfyniadau a'ch dewisiadau bywyd chi eich hun, a gall eich helpu drwy roi gwybodaeth a chyngor cyffredinol i chi. Wnaiff y safle ddim dweud wrthych chi sut i fyw eich bywyd - ond mae'n credu y dylai pawb gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud eu penderfyniadau eu hun.

Mae TheSite.org wedi'i rannu'n adrannau sy'n cynnwys rhyw a chydberthnasau, iechyd a lles, a diod a chyffuriau. Ceir negesfyrddau i chi eu defnyddio i drafod problemau â defnyddwyr eraill y safle, yn ogystal ag erthyglau, fideos ac arolygon defnyddiol.

Os nad ydych chi'n gallu canfod y wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani, gallwch e-bostio cwestiwn at TheSite.org.Trosglwyddwn eich cwestiwn i arbenigwr yn un o'n sefydliadau partner, a bydd ef neu hi'n anfon ateb personol atoch chi o fewn tri diwrnod gwaith.