Alert Section

Dewiswch y grŵp sydd fwyaf perthnasol i'ch pryder:


Trais yn y Cartref

Ffynonellau cymorth i bobl ifanc sy’n dioddef trais yn y cartref. Mae’n cynnwys manylion llochesau lleol, a llinellau cymorth cenedlaethol cyfrinachol ar gyfer dynion a menywod.

Lleol

Uned Diogelwch Cam-drin Domestig

Ewch I Wefan

Uned 18
Canolfan Menter Glannau Dyfrdwy
Rowleys Drive
Shotton
CH5 1PP
01244 830436

dasu@btconnect.com

Mae'r uned cam-drin domestig yng Nglannau Dyfrdwy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc a'u teuluoedd sy'n dioddef unrhyw fath o gam-drin domestig. Gallwn eich helpu i leihau'r risg o niwed pellach i chi eich hun ac i'ch teulu.

Mae'n bosib nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n dioddef cam-drin domestig ai beidio, ac mai'r unig beth rydych chi eisiau yw cael gair cyfrinachol â rhywun. Gallwch gysylltu â ni a gallwn siarad â chi dros y ffôn neu drefnu cyfarfod â chi cyn gynted â phosib mewn lle diogel. Rydyn ni'n asiantaeth arbenigol sy'n deall anghenion dyrys pobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Fyddwn ni ddim yn eich barnu chi. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd gofyn am help. Pan fydd raid, gallwn eich cyfeirio at lety lloches argyfwng neu gallwn eich cefnogi drwy systemau cyfiawnder i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel.

Mae gennym hefyd gysylltiadau clos ag asiantaethau eraill, a gallwn eu defnyddio i'ch helpu i amddiffyn eich hun i'r dyfodol.

Cenedlaethol

Refuge

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 0808 2000 247
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Nac ydy
Oriau Agor: Bob amser ar Agor

Mae Lloches yn ffynhonnell cefnogaeth ar gyfer merched a phlant sy'n dioddef cam-drin domestig. Mae llawer o bobl ifanc yn profi'r mater hwn, naill ai o fewn eu cydberthnasau hwy eu hunain, neu yn eu cartrefi eu hun.

Mae Lloches yn rhedeg y Llinell Gymorth Trais Domestig Genedlaethol Rhadffon 24 awr, gyda Chymorth i Ferched. Mae pob galwad i'r llinell gymorth yn gyfrinachol. Wnawn ni ddim datgelu eich bod wedi cysylltu â ni, ac ni wnawn ni drosglwyddo unrhyw wybodaeth heb gael eich caniatâd chi gyntaf. Mae holl staff ein llinell gymorth wedi'u hyfforddi'n arbennig, maent yn gyfeillgar ac yn gydymdeimladol. Os nad ydych chi'n cael drwodd y tro cyntaf, da chi, daliwch i drïo. Mae hi'n dawelach arnon ni gyda'r nos, yn y nos a dros y penwythnos. Ffoniwch ni pan fyddwch chi'n gwybod ei bod hi'n ddiogel i chi siarad, ond os ydych chi mewn perygl gwirioneddol, ffoniwch 999.

Ein nod ydy eich gwneud chi'n ymwybodol o'ch opsiynau, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad am eich camau nesaf. Fyddwn ni byth yn eich barnu chi, nac yn dweud wrthych chi beth i'w wneud. Hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi siarad am eich profiadau o'r blaen, mae croeso i chi roi caniad i ni. Rydyn ni'n gwybod bod siarad am y tro cyntaf yn gallu bod yn anodd, ond mae llawer o bobl yn teimlo'n well ar ôl cael bwrw eu bol. Rydyn ni hefyd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill a allai helpu - os ydy hyn yn rhywbeth yr hoffech chi i ni ei wneud.

The Hideout

Ewch i Wefan

Mae'r Hideout yn wefan arbennig ar gyfer pobl ifanc sy'n profi trais domestig, naill ai o fewn eu cydberthnasau hwy eu hunain, neu yn eu cartrefi eu hun. Rydyn ni'n gwybod y gallech chi fod yn teimlo'n ofnus, yn ddryslyd neu'n bryderus – rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni eich helpu chi.

Ar ein safle, ceir cyngor am y camau nesaf i chi eu cymryd, yn ogystal â hanesion pobl ifanc eraill mewn sefyllfa debyg. Gallwch weld ein rhith-loches, i weld sut fywyd sydd yno, yn ogystal â rhoi cynnig ar ein gemau rhyngweithiol.

Rydyn ni wedi rhoi atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae pobl ifanc sy'n profi trais domestig yn eu gofyn i ni, ond os oes unrhyw beth arall yr hoffech chi wybod, mae croeso i chi ymweld â'n negesfwrdd a phostio nodyn yno.

Wales Domestic Abuse

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 0808 8010 800
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Nac ydy
Oriau Agor: Bob amser ar Agor

Mae llinell gymorth Cam-drin Domestig Cymru'n ffynhonnell cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi bod yn dyst neu'n ddioddefwr i unrhyw fath o gam-drin domestig. Rydyn ni hefyd yn derbyn galwadau gan bobl sy'n poeni bod rhywun arall yn cael eu cam-drin.

Mae'r gweithwyr cefnogi ar y llinell gymorth yn anfeirniadol, a byddant yn cadw eich galwad yn gwbl gyfrinachol. Beth bynnag rydych chi eisiau - cefnogaeth, gwybodaeth neu ddim ond sgwrs – byddwn ni'n gwrando.

Gallwn gynnig gwybodaeth am y gwahanol fathau o gamdriniaeth - gan gynnwys corfforol, meddyliol, emosiynol, rhywiol ac ariannol. Os oes angen manylion am lefydd diogel i aros arnoch chi, gallwn ni eu rhoi i chi. Gallwn hefyd eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau cefnogi eraill a allai helpu – ond dim ond os ydych chi'n rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny.

Ysgariad

Mae’n cynnwys manylion ffynonellau cymorth i bobl ifanc y mae ysgariad yn effeithio arnynt. Mae’n cynnwys gwasanaethau lleol, gwefannau cenedlaethol a llinellau cymorth cyfrinachol.

Lleol

Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu

Ewch i Wefan

Canolfan Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
01244 547017

GGiDsyFf@siryfflint.gov.uk

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu yn ffynhonnell gwybodaeth sydd â manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi ar gyfer pob agwedd ar fywyd teulu. Mae gennym lawer o fanylion am help ar gyfer materion cyffredin y mae pobl ifanc yn eu hwynebu.

Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod gofal plant, gweithgareddau gwyliau ysgol, gwasanaethau hamdden a swyddi gwag. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am fudiadau a llinellau cymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr ifanc.

Mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar ac yn gyfrinachol. Os na allwn ni eich helpu chi'n hun, mae'n bosib y gallwn ni eich rhoi chi mewn cysylltiad â mudiadau eraill sy'n gallu cefnogi eich anghenion.

Cefnogaeth Teulu Relate

Ewch i Wefan

Canolfan Relate
59 Stryt y Brenin
Wrecsam
LL11 1HR

Dydd Llun – dydd Gwener: 9:30AM - 4:00PM
Dydd Llun – dydd Gwener: 6:00AM - 9:00PM

Ffon: 0300 100 1234

Mae Relate yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer cyplau, teuluoedd ac unigolion - gan gynnwys pobl ifanc a'u rheini, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'r teulu. Os ydych chi'n dioddef straen neu broblemau o fewn unrhyw berthynas ar hyn o bryd, gallwn gynnig cefnogaeth a chyngor i'ch helpu i gael trefn ar eich sefyllfa, a phenderfynu pa gamau i'w cymryd nesaf.

Rydyn ni'n cefnogi pobl drwy bob cam o'u cydberthnasau, a gallwch ddefnyddio ein cefnogaeth ar eich pen eich hun neu efo eraill.

Mae ein holl staff yn arbennig o gydymdeimladol a chyfeillgar. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, gallwn hefyd roi manylion mudiadau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Cenedlaethol

ChildLine

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 0800 1111
Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Nac ydy
Oriau Agor: Bob amser ar Agor

Mae ChildLine yn llinell gymorth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Pan fyddwch yn ein ffonio ni, gallwch siarad â rhywun sy'n poeni am eich problemau. Mae'r cwnselwyr i gyd wedi derbyn hyfforddiant – mi wnawn ni wrando arnoch chi a cheisio eich helpu.

Mae galwadau i ChildLine yn gyfrinachol - gallwch siarad am unrhyw beth y mynnwch chi, ac ni wnawn ni ddweud dim wrth neb arall, os nad ydych chi eisiau i ni ddweud. Ni fydd eich cwnsleydd ChildLine yn cymryd unrhyw gamau, heblaw eu bod yn teimlo bod eich bywyd mewn perygl. Os ydych chi'n ofnus, neu'n teimlo allan o reolaeth, mae hynny'n ffein. Gallwch ddweud wrthym ni.

Mae siarad yn agored am broblemau neu siarad am eich teimladau'n gallu bod yn wirioneddol anodd, ond dyna'r peth iawn i'w wneud. Meddyliwchgymaint gwell y byddwch chi'n teimlo os ydych chi'n gallu siarad am y peth yn gyfrinachol â rhywun. Ein gwaith ni ydy gwrando arnoch chi, ac weithiau eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall sy'n gallu eich helpu - os ydych chi'n fodlon.

Divorce Aid

Ewch i Wefan

Mae Cymorth Ysgariad yn wasanaeth sy'n anelu at gefnogi pobl ifanc sy'n delio â phroblemau teuluol. Os ydy'ch rhieni'n gwahanu neu'n ysgaru, rydyn ni'n deall sut mae hynny'n gallu eich ypsétio a'ch drysu.

Mae ein gwefan yn anelu at ateb rhai o'r cwestiynau a allai fod gennych, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi am wahanol ffynonellau cefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol. Rydyn ni wedi ysgrifennu adrannau am yr emosiynau y gallech chi fod yn eu profi, yn ogystal â chyngor am sut i wella eich hwyliau os ydych chi'n teimlo'n isel. Ceir hefyd ganllaw i gyfraith ysgariad a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer pobl ifanc.

Os nad ydych chi'n dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch chi ar y safle, mae croeso i chi anfon e-bost aton ni, ac fe wnawn ein gorau i'ch helpu chi.

TeenIssues

Ewch i Wefan

Sefydlwyd TeenIssues am ein bod yn gwybod pa mor anodd weithiau ydy bod yn berson ifanc yn ei arddegau. Ar ein safle, gallwch ganfod gwybodaeth am ystod o broblemau y mae pobl ifanc yn aml yn eu hwynebu wrth dyfu i fyny. Rydyn ni'n credu bod TeenIssues yn ddefnyddiol ac yn berthnasol, ac yn llawn o nodweddion difyr a chyngor.

Ar ein safle, gallwch ganfod gwybodaeth am iechyd corfforol, iechyd meddwl, bywyd teulu a chydberthnasau. Gallwch bori drwy ein herthyglau blaenorol yn ôl pwnc – bydd rhai newydd hefyd yn ymddangos ar y dudalen gartref. Gallwch chwilio drwy ein safle am faterion penodol, a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr wythnosol.

Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, mae croeso i chi e-bostio cwestiwn at un o'n harbenigwyr, ac fe ddown yn ôl atoch chi mor gyflym ag y gallwn.

Ypsét a Niwed wedi'u Hachosi gan Bobl Eraill (Teulu)

Mae’n cynnig manylion gwasanaethau i bobl ifanc sy’n dioddef poen neu niwed a gaiff ei achosi gan aelodau o’r teulu. Mae’r ffynonellau cymorth yn cynnwys sefydliadau lleol a llinellau cymorth cyfrinachol.

Lleol

Nyrsys Ysgol ac Meddyg(on)

Wedi'u lleoli mewn Ysgolion Uwchradd

I gael gwybod mwy am eich nyrs ysgol benodol chi:

Canolfan Plant Sir y Fflint
Tŷ Catherine Gladstone
Hawarden Way
Mancot
CH5 2EP
01244 538883

Mae Nyrsys Ysgol, neu Ymgynghorwyr Iechyd Pobl Ifanc (YIPI) wedi'u lleoli mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, y naill a'r llall, ledled Sir y Fflint.

Gallwch siarad ag YIPI am unrhyw broblem iechyd neu les y gallech chi fod yn ei dioddef. Ni wnân nhw eich barnu chi, ac maen nhw wedi arfer siarad â phobl ifanc am bob math o salwch a phroblem. Rydyn ni'n gwybod ei bod hi weithiau'n gallu bod yn anodd neu'n destun embaras gofyn am help, ond fe wnawn ein gorau i wneud pethau'n haws i chi mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Mae gan YIPI gysylltiadau â sawl gwasanaeth arall, yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae'n bosib y gallai'r rhain roi cymorth pellach i chi efo unrhyw broblemau. Maent yn fwy na pharod i roi manylion ynglŷn â'r gwasanaethau hyn i chi, dim ond i chi ofyn.

Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Plant

Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint ar gyfer Plant
Swyddfeydd y Sir
Rhodfa Gwepra
Cei Connah
Sir y Fflint
CH5 4HB
01352 701000

Mae Gwasanaethau ar gyfer Plant yn rhoi manylion ynglŷn â gwasanaethau cefnogi lleol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc. Os oes gennych chi broblem a'ch bod yn chwilio am wybodaeth a chymorth pellach i'w goresgyn - rhowch alwad i ni.

Byddwn yn cadw unrhyw wybodaeth a rowch chi i ni yn gwbl gyfrinachol. Mae ein staff yn groesawgar ac yn cydymdeimlo â'ch anghenion, beth bynnag y bônt - mae gennym wybodaeth am wasanaethau iechyd a chefnogaeth emosiynol. Rydyn ni wedi arfer â delio am amrywiaeth o ymholiadau, felly peidiwch â theimlo embaras, da chi. Does yr un cwestiwn rhy fawr na rhy fach.

Ac os na allwn ni helpu, am ryw reswm, mae gennym ni gysylltiadau â gwasanaethau eraill a allai eich helpu.

Cenedlaethol

ChildLine

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 0800 1111

Am ddim o ffôn tŷ: Ydy
Am ddim o ffôn symudol: Ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Nac ydy
Oriau Agor: Bob amser ar Agor

Mae ChildLine yn llinell gymorth arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc. Pan fyddwch yn ein ffonio ni, gallwch siarad â rhywun sy'n poeni am eich problemau. Mae'r cwnselwyr i gyd wedi derbyn hyfforddiant – mi wnawn ni wrando arnoch chi a cheisio eich helpu.

Mae galwadau i ChildLine yn gyfrinachol - gallwch siarad am unrhyw beth y mynnwch chi, ac ni wnawn ni ddweud dim wrth neb arall, os nad ydych chi eisiau i ni ddweud. Ni fydd eich cwnsleydd ChildLine yn cymryd unrhyw gamau, heblaw eu bod yn teimlo bod eich bywyd mewn perygl. Os ydych chi'n ofnus, neu'n teimlo allan o reolaeth, mae hynny'n ffein. Gallwch ddweud wrthym ni.

Mae siarad yn agored am broblemau neu siarad am eich teimladau'n gallu bod yn wirioneddol anodd, ond dyna'r peth iawn i'w wneud. Meddyliwch gymaint gwell y byddwch chi'n teimlo os ydych chi'n gallu siarad am y peth yn gyfrinachol â rhywun. Ein gwaith ni ydy gwrando arnoch chi, ac weithiau eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall sy'n gallu eich helpu - os ydych chi'n fodlon.

Family Matters

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 01474 537 392

Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Dydd Llun – dydd Gwener 9:00am - 5:00pm

Mae Family Matters llinell gymorth ar gyfer pobl sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol neu drais. Os ydych chi'n un o'r bobl ifanc niferus sydd wedi'u heffeithio gan y mater hwn, un o'r sialensiau mwyaf a wynebwch ydy penderfynu siarad efo rhywun. Rydyn ni'n gwybod bod hwn yn gallu ymddangos yn gam anferthol.

Pan fyddwch yn ffonio ein llinell gymorth, byddwn yn cynnig i chi wasanaeth diogel a chyfrinachol i archwilio'r meddyliau, y teimladau a'r ymddygiad sy'n effeithio ar eich bywyd. Mae holl wirfoddolwyr ein llinell gymorth yn derbyn hyfforddiant arbennig, ac maent yn gyfeillgar ac yn gydymdeimladol.

Byddwn yn gwrando, yn cynnig cefnogaeth a help wrth i chi ganfod ffordd drwy rai o'r anawsterau yr ydych yn eu profi a sut maent yn effeithio ar eich lles. Rydyn ni'n gobeithio y gallwn leihau'r trallod meddyliol a chorfforol y gallech fod yn ei brofi. Gallwn hefyd eich helpu i ddelio â meddyliau am niweidio neu ladd eich hun. Os nad ydyn ni'n gallu eich helpu chi'n uniongyrchol, gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi – os ydy hyn yn rhywbeth yr hoffech chi i ni ei wneud.

SupportLine

Ewch i Wefan

Llinell gymorth Rhif ffôn: 020 8554 9004
Am ddim o ffôn tŷ: Nac ydy
Am ddim o ffôn symudol: Nac ydy
Ymddangos ar fil ffôn: Ydy
Oriau Agor: Yn amrywio – ffoniwch am fanylion

Yn SupportLine, rydyn ni'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl o bob oed. Mae ein horiau agor yn amrywio - ond os ydych chi'n ffonio pan ydyn ni ar gau, bydd neges leisbost yn dweud wrthych chi pryd fyddwn ni'n agor nesa.

Mae unrhyw beth a ddywedwch chi wrthym ni'n gyfrinachol. Wnawn ni ddim rhoi eich manylion i neb arall, heblaw eich bod chi eisiau i ni wneud hynny. Mae ein holl weithredwyr yn gyfeillgar, a byddwn yn gwrando'n astud iawn ar yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud wrthym ni.

Byddwn yn gweithio â chi i geisio datblygu eich hunan-barch, gan roi i chi'r cryfder mewnol a'r gallu i symud ymlaen yn eich bywyd. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn cwestiynau i chi a fydd yn caniatáu i chi archwilio'r mater yn llawnach, a chanfod eich ateb chi eich hun i wella'r sefyllfa. Gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am wasanaethau eraill o bobl rhan o'r Deyrnas Unedig a allai fod yn ddefnyddiol i chi.