Alert Section

Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau


Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref

Mae’r Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref wedi’i sefydlu i gefnogi ffyniant canol trefi drwy drefnu digwyddiadau a gweithgareddau sy’n dod â mwy o bobl i ganol y dref.Rydym yn cydnabod bod busnesau canol tref wedi ac yn parhau i wynebu amser heriol yn economaidd felly drwy roi hwb i weithgaredd yng nghanol y dref, bydd o fudd i’r busnesau gyda mwy o ymwelwyr.

Mae’r prosiect hwn ynghyd ag 8 o brosiectau eraill yn ffurfio pecyn o ymyrraeth sy’n cael ei adnabod fel ‘Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref - Sir y Fflint’.   Mae’r rhaglen hon wedi’i thargedu at 7 canol tref ar draws Sir y Fflint (Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton), a wnaed yn bosibl gyda chyllid a sicrhawyd o ‘Gronfa Ffyniant Gyffredin’ Llywodraeth y DU. Prif nod y rhaglen gyffredinol yw cefnogi bywiogrwydd ac amrywiaeth canol trefi ar draws y sir a chyfrannu at wella cynnig canol tref a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr.  Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (neu y Gronfa) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol llywodraeth y DU ac elfen sylweddol o’i gefnogaeth i fannau ar draws y DU.

Mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid newydd ar gyfer buddsoddi erbyn Mawrth 2025, gyda phob ardal yn y DU yn derbyn dyraniad o’r Gronfa drwy fformiwla ariannu yn hytrach na chystadleuaeth.  Bydd yn helpu mannau ar draws y sir i gyflawni deilliannau gwell ac mae’n cydnabod bod hyd yn oed rhannau mwyaf ffyniannus y DU yn cynnwys pocedi o amddifadedd ac angen cefnogaeth. 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref?

Mae’r Grant hwn yn gynllun sy’n anelu i annog gweithgaredd a digwyddiadau yng Nghanol y Dref a chynyddu nifer yr ymwelwyr a ffyniant yn y dref.    Mae’r grant ar gael i grwpiau cymunedol, canol tref, sefydliadau, busnesau ac unigolion.   Mae’n rhaid i’r digwyddiadau neu weithgareddau gael eu cwblhau erbyn 15 Tachwedd 2024 fan bellaf.  Mae yna swm cyfyngedig o gyllid felly rydym yn eich annog i ymgeisio’n fuan gan ein bod yn rhagweld y bydd yna lawer iawn o ddiddordeb yn y grant hwn a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin (yn amodol ar ganlyniadau’r panel).

Prif bwrpas yr arian yw ceisio gwneud gwir wahaniaeth i ymddangosiad canol ein trefi trwy eu gwneud yn lleoedd mwy deniadol i’r cyhoedd ymweld a gweithio; ac annog pobl i dreulio eu hamser a gwario eu harian yno.  Felly bydd y Cyngor yn cefnogi digwyddiadau a gweithgareddau o fewn y brif ganolfan fasnachol (yn gyffredinol y stryd fawr - neu debyg - a lleoliadau cyfagos).

Pa fath o ddigwyddiadau/gweithgareddau sy’n gymwys?

Gallai’r gweithgaredd a digwyddiadau arfaethedig fod yn greadigol ac amrywio o ddigwyddiadau mawr i weithgareddau bach. Rhai syniadau ar gyfer digwyddiadau/gweithgareddau:

  • Grŵp Garddio Canol y Dref 
  • Parti Stryd (i ddathlu treftadaeth leol er enghraifft) 
  • Digwyddiadau Hyfforddiant Cymunedol (Cymorth Cyntaf er enghraifft) 
  • Ras hwyl / Marathon
  • Diwrnod Thema
  • Clwb Te (Clwb te wythnosol/misol)
  • Gwyliau Cerddorol
  • Gŵyl cynnyrch lleol 
  • Helfeydd Trysor
  • Gŵyl Fwyd
  • Mawrthnadoedd gwych misol/rhanbarthol
  • Digwyddiad arddangos busnes 
  • Cynllun llysgennad busnes 
  • Digwyddiadau twristiaid yn eich tref 
  • Gŵyl Celfyddydau Cymunedol

Ydy fy nigwyddiad angen bod yn ddigwyddiad newydd?

Dylai pob cais fod ar gyfer digwyddiadau newydd, fodd bynnag, gallwch ymgeisio am arian grant ar gyfer ymestyn digwyddiadau/gweithgareddau presennol a drefnwyd. Er enghraifft, gallai digwyddiadau blynyddol fyddai’n dymuno ymestyn eu digwyddiad dderbyn arian grant ond byddai hyn ar gyfer estyniadau yn unig ac nid ar gyfer y digwyddiad ei hun oedd yn bodoli’n flaenorol.  

Sut ydw i’n gwneud cais?

Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Tîm Adfywio ar e-bost ar regeneration@flintshire.gov.uk i drafod eich cais. Bydd y Tîm Adfywio yn sicrhau eich bod yn hollol wybodus ac yn cael eich cefnogi trwy gydol y broses.  Mae’r Tîm Adfywio yn gallu darparu ffurflen gais a chanllawiau ar gyfer y digwyddiad - mae’r rhain hefyd ar gael ar wefan y Cyngor yma.

Beth ddylwn ei gynnwys gyda’r ffurflen gais i gefnogi fy nghais?

Dylid llenwi’r ffurflen gais am grant yn unol â’r canllawiau a luniwyd i gynorthwyo ymgeiswyr a dylai gynnwys manylion a chostau llawn ar gyfer y digwyddiad/gweithgaredd. Efallai y bydd angen i ymgeiswyr ddarparu rhai, neu bob un o’r canlynol yn dibynnu ar y prosiect:

  • Cydsyniad a thrwyddedau statudol perthnasol (fel gorchmynion rheoleiddio traffig) ble bo’n briodol.  
  • Dogfen Yswiriant 
  • Mae angen gwybodaeth ariannol at ddibenion diwydrwydd dyladwy er mwyn bod yn hyderus fod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi’n briodol 
  • Gwybodaeth am gynllunio busnes i gefnogi’r fenter arfaethedig 
  • Dyfyniadau gan gyflenwyr ar gyfer y digwyddiad/gweithgaredd 

A oes unrhyw amodau penodol yn ymwneud â’r grant hwn?

Oes, byddwch angen y caniatâd perthnasol wedi’i gymeradwyo neu’n amodol cyn y gellir datblygu unrhyw geisiadau fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a gorchmynion rheoleiddio traffig.  

Bydd pob ymgeisydd angen darparu tystiolaeth o wariant ynghyd â thystiolaeth o beth a gyflawnwyd o ganlyniad i’r arian grant a ddyfarnwyd (e.e. tystiolaeth o allbwn a deilliannau a gyflawnwyd yn unol â manylion a amlinellwyd yn nogfen ganllaw Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau Canol y Dref).

Sut bydd fy nghais yn cael ei asesu?

Bydd holl geisiadau a dderbyniwyd yn cael eu cyflwyno i Banel Adfywio Sir y Fflint ar gyfer ystyriaeth a gwneud penderfyniad. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’w hystyried yn ystod un o gyfarfodydd misol y panel wedi’i nodi isod.  Yn ogystal, mae dyddiadau’r panel a dyddiad y caiff yr ymgeisydd wybod a yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. 

Dyddiadau pwysig
Dyddiad cau misol i gyflwyno ceisiadau (i’w derbyn cyn 5pm).Cyfarfod y Panel – i ystyried ceisiadau ar:Ymgeisydd yn cael gwybod beth yw’r penderfyniad erbyn:
Dydd Llun 9 Hydref 2023 Dydd Mawrth 17 Hydref 2023 Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Dydd Llun 6 Tachwedd 2023 Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023
Dydd Llun 4 Rhagfyr 2023 Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023 Dydd Mawrth 19 Rhagfyr 2023
Dydd Llun 8 Ionawr 2024 Dydd Mercher 17 Ionawr 2024 Dydd Mercher 24 Ionawr 2024
12 Chwefror 2024 Dydd Mawrth 20 Chwefror 2024 27 Chwefror 2024
11 Mawrth 2024 Dydd Mawrth 19 Mawrth 2024 26 Mawrth 2024
8 Ebrill 2024 Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024 23 Ebrill 2024
6 Mai 2024 Dydd Mawrth 14 Mai 2024 21 Mai 2024
10 Mehefin 2024 Dydd Mawrth 18 Mehefin 2024 25 Mehefin 2024
8 Gorffennaf 2024 Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024 23 Gorffennaf 2024
12 Awst 2024 Dydd Mawrth 20 Awst 2024 27 Awst 2024
9 Medi 2024 Dydd Mawrth 17 Medi 2024 24 Medi 2024

Sylwch ni fydd y panel yn cynnal holl gyfarfodydd os yw’r holl gyllid wedi’i ddyrannu’n llawn i brosiectau yn gynt na dyddiadau’r cyfarfodydd. Hyn a hyn o gyllid sydd ar gael ac mae’n debyg y bydd galw mawr am y grant, felly anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu ceisiadau yn fuan.

Caiff y ceisiadau eu hasesu ar sail y budd i’r ardal leol, yn cynnwys yr amgylchedd, ond gall lefel y grant (yn amodol ar reolau cymorth gwladwriaethol) fod yn gyfyngedig yn dibynnu ar faint a natur y prosiect arfaethedig, y bwlch hyfywedd neu gyfraniad ariannol y cwmni.

Byddai arian grant yn cael ei ddyrannu ar gyfer isafswm o £500 hyd at fwyafswm o £10,000, sy’n fwyafswm o 80% o gyfanswm cost y prosiect gyda’r gweddill i gael ei ariannu gan y sefydliad/grŵp/unigol sy’n ymgeisio.

Bydd y ceisiadau ar gyfer cyllid TCAEG yn cael ei asesu’n llawn a bydd aelod o’r Tîm Adfywio yn cyflwyno argymhellion. Gall pob awdurdod lleol benderfynu ar y gyfradd ymyrryd yn seiliedig ar amodau’r farchnad leol, a darparu hyd at 80% o gymorth grant.

Penderfyniadau:

  • Cymeradwyo
  • Cymeradwyo gydag amodau
  • Gwrthod – bydd cyfiawnhad llawn yn cael ei roi i unrhyw ymgeisydd y mae ei gais wedi’i wrthod.

Pryd fyddwn angen cynnal y digwyddiad neu weithgaredd?

Fel rhan o’r telerau ac amodau’r grant, mae’n rhaid i’r digwyddiad gael ei gynnal dim hwyrach na 15 Tachwedd 2024.

A fydd angen i mi roi diweddariadau mewn perthynas â’r digwyddiad/gweithgaredd?

Eich cyfrifoldeb chi yw monitro’r gwaith a sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal.  Byddwch angen darparu’r dystiolaeth bod y digwyddiad wedi ei gynnal i’r tîm adfywio. Er enghraifft, gwerthu tocynnau, lluniau digwyddiad ac ati.  Mae’n rhaid darparu’r dystiolaeth hon gynted â phosibl yn dilyn y digwyddiad.

Sut ydw i’n hawlio’r arian grant?

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn teilwra’r modd o dalu’r arian mewn camau i’r ymgeisydd.  Unwaith y bydd y digwyddiad wedi’i gynnal, gall anfonebau terfynol gael eu cyflwyno ar gyfer hawlio’r grant. Bydd y Tîm Adfywio yn gweithio gyda chi i drefnu taliad mewn modd amserol.

A fyddaf yn gallu darparu fy nigwyddiad/gweithgaredd cyn i’r panel asesu grantiau ystyried fy nghais am grant?

Sylwer y bydd angen cymeradwyo’r arian cyn y gellir cynnal y digwyddiad/gweithgaredd. Ni fydd yn bosibl ariannu costau sy’n deillio cyn dyddiad y cais am grant i gael ei asesu gan Banel Adfywio’r Cyngor.

Os bydd fy nghais yn llwyddiannus ac yna na fydd y digwyddiad yn gallu cael ei gynnal, beth fydd yn digwydd?

Bydd holl arian grant yn cael ei hawlio ymlaen llaw felly os na fydd eich digwyddiad yn cael ei gynnal ac nad yw Cyngor Sir y Fflint wedi talu unrhyw beth allan cyn y digwyddiad fel blaendaliadau, Mawrthnata ac ati, yna byddech yn gyfrifol am ad-dalu holl gostau.