Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ar draws Cymru ddatblygu 'Cynlluniau Creu Lleoedd' i nodi sut byddant yn nodi, cynllunio a darparu prosesau Creu Lleoedd ym mhob un o'u canol trefi. Mae hyn yn golygu rhoi anghenion canol trefi yn y dyfodol wrth wraidd polisïau, prosesau gwneud penderfyniadau a chamau gweithredu lleol.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran amrywiaeth o bartneriaid ar sail angen lleol pob canol tref ar draws Sir y Fflint.
Mae dull Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru wedi’i alinio’n agos â’i ddull ‘Canol Trefi yn Gyntaf’ a lansiwyd yn 2020, sydd â’r nod o leoli gwasanaethau ac adeiladau mewn canol trefi i helpu i roi bywyd newydd i ganol trefi ar draws Cymru wedi pandemig Covid-19, gwerthiannau manwerthu sy’n gostwng a newidiadau i’r ffordd y caiff canol trefi eu defnyddio.
Pwrpas Creu Lleoedd yw cydlynu cynlluniau presennol a nodi materion mae pobl a lleoedd yn eu hwynebu, fel mannau cyhoeddus a mannau gwyrdd, siopau gwag, hygyrchedd ac anghenion masnachol a thai. Caiff hyn ei gyflawni trwy broses ymgynghori, yn ddigidol ac wyneb i wyneb a chaiff ei lywio gan ddata a dadansoddiad masnachol sy’n benodol i’r dref hefyd.
Mae gan bob un o ganol trefi Sir y Fflint wahanol anghenion oherwydd eu bod yn cynnwys cymysgedd unigryw o elfennau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, ac felly mae ganddynt wahanol gyfleoedd ar gyfer gweithgarwch Creu Lleoedd.
O ganlyniad i’r adborth o ymgynghoriadau digidol ac wyneb i wyneb a dadansoddiad dilynol, caiff amrywiaeth o flaenoriaethau eu nodi a fydd yn llywio cynllun gweithredu a gweledigaeth ar gyfer pob canol tref.
O’r canol trefi yn Sir y Fflint sydd angen Cynlluniau Creu Lleoedd, bydd y digwyddiadau ymgynghori cyntaf yn targedu Bwcle, Treffynnon a Shotton, a bydd Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry yn dilyn o fewn y 2 flynedd nesaf.
Give My View
Mae’r pethau sy’n bwysig i chi’n bwysig i ni.
Ymgynghoriadau digidol ac wyneb yn wyneb i’w cydlynu gan Gyngor Sir y Fflint
Grŵp Llywio Aml Asiantaeth i ystyried canfyddiadau’r ymgynghoriad
Themâu a blaenoriaethau allweddol wedi’u nodi
Cynllun Creu Lleoedd wedi’i ddatblygu ar gyfer canol y dref
Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru wedi ymrwymo
Cyngor Sir i gymeradwyo’r cynllun
Cynllun wedi’i gytuno ymhlith budd-ddeiliaid allweddol
Darparu’r cynllun ochr yn ochr â budd-ddeiliaid allweddol
Ar hyn o bryd rydym ar gam 3: Y themâu a blaenoriaethau allweddol a nodwyd.
Unwaith i’r rhain gael eu trafod a’u dadansoddi gan fudd-ddeiliaid allweddol a gweithgorau, bydd y rhain yn llywio datblygiad y Cynllun Creu Lleoedd.
Cwestiynau Cyffredin
Mae Creu Lleoedd yn broses sy’n digwydd yng nghanol pob tref yng Nghymru; sydd â’r bwriad o osod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi amrywiaeth o weithgareddau a fyddai o fudd i’r dref, y bobl leol a sefydliadau lleol.
Bydd gwybodaeth a gesglir drwy broses Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer yr ardal sydd wedi’u nodi mewn cynllun ar gyfer ardal benodol fel canol tref (neu ran o dref/dinas fwy weithiau). Bydd y cynllun yn rhoi manylion am y camau gweithredu y mae angen eu cymryd a pha gamau sy’n debygol o gael eu gweithredu yn y 5-10 mlynedd nesaf gan amrywiaeth o bobl a sefydliadau i sicrhau newid cadarnhaol.
Drwy gael Cynlluniau Creu Lleoedd, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd awdurdodau lleol a’u partneriaid yn cyflawni dull mwy cydlynol o gydweithio yng nghanol ein trefi, gan nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi a gwella’r ardal i drigolion lleol, busnesau ac ymwelwyr, ymhlith amrywiaeth o ganlyniadau cadarnhaol eraill.
Os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://cy.dcfw.org/creu-lleoedd/
Fel pob awdurdod lleol ledled Cymru, mae’n ofynnol i Gyngor Sir y Fflint ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd a chynnwys pobl leol yn y broses o lunio cynnwys cynlluniau o’r fath mewn ymateb i anghenion pob ardal leol. Mewn ymateb i hyn, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgynghori â phobl leol yn ddigidol yn ogystal ag wyneb yn wyneb yn rhan o ddatblygiad ei Gynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi ledled Sir y Fflint.
Bydd canlyniadau’r holl ddigwyddiadau ymgynghori ac arolygon Creu Lleoedd yn cael eu defnyddio i lywio Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi Sir y Fflint. Bydd y canlyniadau o’r arolwg ar gael i chi edrych arnyn nhw a byddan nhw hefyd yn cael eu coladu â gwybodaeth arall a gasglwyd yn rhan o’r broses Cynllun Creu Lleoedd. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddata/gwybodaeth ystadegol a gasglwyd ar gyfer pob canol tref a’r wybodaeth a gasglwyd hefyd o ddigwyddiadau ymgynghori cyhoeddus Creu Lleoedd, yn ogystal â gwybodaeth a gafodd ei chyfnewid rhwng Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid o’r sectorau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus sy’n fudd-ddeiliaid allweddol yng nghanol ein trefi.
Bydd canlyniadau ymgynghoriadau Creu Lle Sir y Fflint yn cael eu dangos ar wefan Cyngor Sir y Fflint
Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint (corff gwneud penderfyniadau’r Cyngor sy’n cynnwys aelodau etholedig) wedi penderfynu gwneud y gwaith fesul cam o ystyried yr adnoddau sydd ar gael a’r amser sydd ei angen i greu cynlluniau ar gyfer 7 prif dref y sir. Cytunwyd y byddai Bwcle, Treffynnon a Shotton yn rhan o waith rhan 1 Cynllun Creu Lleoedd Sir y Fflint, gwaith a ddechreuwyd arno yn 2023. Mae’r cynlluniau ar gyfer yr ardaloedd hyn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Ar gyfer pob tref yng Nghyfran 1 y datblygiad Cynllun Creu Lleoedd, Bwcle, Treffynnon a Shotton, cynhaliwyd tair sesiwn wyneb yn wyneb ym mis Chwefror a Mawrth 2023. Roedd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i gasglu barn a chanfyddiadau pellach gan bobl leol am ganol eu tref a’i ddyfodol. Bydd y wybodaeth a gasglwyd gan y mynychwyr yn cael eu cyfuno â data ac adborth eraill i lywio’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer canol trefi Sir y Fflint.
Mae’r gwaith ar gyfer y Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry sy’n ffurfio cyfran 2 a 3 o’r datblygiad Cynllun Creu Lleoedd yn parhau trwy 2023 i’w cwblhau yn 2024-25.
Ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yn y dyfodol yn ymwneud â’r Cynlluniau Creu Lleoedd ar draws y trefi ychwanegol hyn, gwiriwch y dudalen hon neu’r newyddion diweddaraf ar Give My View
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran amrywiaeth o bartneriaid ar sail angen lleol pob canol tref ledled Sir y Fflint. Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gydweithio i ddatblygu a chyflawni Cynlluniau Creu Lleoedd.
Cynhaliwyd yr arolygon ymgynghoriad cychwynnol ar gyfer y trefi hynny sydd yng nghyfran 1 o’r datblygiad Cynllun Creu Lleoedd: Bwcle, Treffynnon a Shotton o 27 Ionawr 2023 hyd at 12 Chwefror 2023 ac felly maent bellach wedi cau. Mae’r gwaith ar gyfer y Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer Cei Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Queensferry, sy’n ffurfio cyfran 2 a 3 o’r datblygiad Cynllun Creu Lleoedd, yn fyw o 12 Mawrth 2024 i 1 Ebrill 2024. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael pan fydd yr ymgynghoriad ar-lein ar gael, ar y dudalen hon neu’r newyddion diweddaraf ar Give My View
Mae unrhyw ddata personol a gaiff ei roi wedi’i ddiogelu gan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ac ni fydd unrhyw ddata’n cael ei rannu â phobl eraill. Ni fydd y wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi’n cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw ar gyfer datblygu Cynlluniau Creu Lleoedd yn Sir y Fflint.
Nid yw’r ymgynghoriadau’n casglu gwybodaeth fel lleoliad penodol nac yn adnabod unigolion na’u gwybodaeth bersonol, gan eithrio casglu codau post a chyfeiriadau e-bost – ond mae rhoi’r wybodaeth hon yn ddewisol wrth gwblhau’r arolwg ar-lein neu fynd i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Mae'r wybodaeth sydd wedi’i chasglu a'r atebion gan bob unigolyn yn ddienw ac yn cael eu cyflwyno’n rhan o'r data cyffredinol a gasglwyd ac felly golyga hyn na fydd modd adnabod ymatebion unigol.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost at regeneration@flintshire.gov.uk