Alert Section

Cychwyn eich Busnes eich hun


Cychwyn eich Busnes eich hun

Ydych chi’n ystyried cychwyn eich busnes eich hun?

Os oes gennych chi’r syniadau a’r penderfyniad i gychwyn arni, mae ein Tîm Datblygu Busnes yn gweithio mewn partneriaeth â Busnes Cymru i gynnig cefnogaeth a chyngor gwerthfawr a chyfrinachol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.busnescymru.llyw.cymru neu ffoniwch Busnes Cymru ar 03000 60 3000.

Mae dechrau busnes yn gam mawr ac yn un na fyddai llawer o bobl yn ei ystyried hyd yn oed. Ond mae’n gyffrous iawn hefyd, ac os yw’r syniad iawn gennych, dylech fynd amdani!

Bydd llawer o gwestiynau yn troi yn eich pen. Sut y byddaf yn dod o hyd i gwsmeriaid? Faint y dylwn i ei godi?   A fyddaf yn gallu ymdopi heb gyflog cyson? A oes rhywun a all fy helpu i baratoi cynllun busnes?

Mae gan Lywodraeth y Cynulliad raglen sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy’n helpu pobl i ddod yn hunangyflogedig. Mae’r rhaglen yn gymysgedd o weithdai a chymorth busnes un i un. Mae’r sesiynau un i un yn rhoi cyfle ichi siarad ag Ymgynghorydd Busnes ar eich pen eich hun. Gallwch sôn am eich syniad wrth yr Ymgynghorydd a fydd yn gwrando arnoch ac yn eich tywys drwy’r camau y mae angen ichi eu cymryd wrth benderfynu a yw hunangyflogaeth yn iawn ichi, ac a yw eich syniad busnes yn ymarferol.

Mae’r gweithdai yn anffurfiol ac maent yn cynnig cyfle da i gyfarfod â phobl eraill sy’n ystyried dechrau busnes. Mae’r gweithdai’n ymdrin â phob agwedd ar gynllun busnes.

Ceir gweithdai sy’n ymdrin â’r pynciau canlynol: Ymwybyddiaeth o fentro i fyd busnes (A yw’n ddewis da i mi?); Ymchwil i’r farchnad; Marchnata; Costio a phrisio; a Phrosesau rheoli a gweinyddu arian. Mae pob modiwl yn para hanner diwrnod a dylid cadw lle ymlaen llaw.

Gallwn gynnig ystod o wasanaethau i unrhyw un sy’n bwriadu neu sy’n ystyried dechrau busnes yn Sir y Fflint.

  • Tîm o Ymgynghorwyr Busnes profiadol
  • Cefnogaeth gyfrinachol un i un
  • Cyngor rhad ac am ddim a diduedd am bob agwedd ar ddechrau busnes
  • Cyngor am farchnata, cyllid, gweithrediadau a TG a materion sy’n ymwneud â threth
  • Help i baratoi cynllun busnes a rhagolygon llif arian

E-bost: BusDev@siryfflint.gov.uk