Agor yn ddiogel yn ystod y Coronafeirws (COVID-19)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw ar gyfer y sector busnes, yn cynnwys manwerthwyr. Gallwch ddarllen y canllaw yma https://llyw.cymru/eich-cyfrifoldebau-fel-cyflogwr-coronafeirws
I gael cyngor am iechyd a diogelwch penodol, ewch i dudalennau gwe’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch isod. Os ydych chi angen rhagor o gymorth ar ôl darllen eu gwybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws a thudalennau “atebion i gwestiynau”, ffoniwch eu Llinell Gyswllt 0300 790 6787
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: yr wybodaeth a chyngor diweddaraf
Gweithio'n ddiogel yn ystod yr achosion o Coronafeirws (COVID-19)
Rheoli'r risgiau yn eich busnes
Pum cam i asesiad risg
Symleiddio iechyd a diogelwch
Mae’n bwysig fod cyflogwyr a phobl hunangyflogedig yn deall fod ganddynt ddyletswyddau statudol eisoes tuag at eu gweithwyr a phobl eraill i roi mesurau ar waith i’w cadw nhw’n ddiogel. Yn ystod y pandemig yma, mae hyn yn cynnwys cymryd camau i helpu pobl i weithio o adref os oes modd iddynt weithio fel hyn, darparu gweithdrefnau golchi dwylo a hylendid yn unol â chanllawiau, cymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl a rhoi sylw i’r canllawiau gan Weinidogion Cymru ynglŷn â chymryd y mesurau hynny.
O dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae hi eisoes yn ofyniad bod cyflogwyr a phobl hunangyflogedig yn cynnal asesiadau risg ar gyfer peryglon yn y gweithle ac mae’n hanfodol fod cyflogwyr yn cynnal asesiad risg COVID-19.
Prif feysydd y gwelwch chi yn y canllaw:
- Mae asesiad risg yn hanfodol (enghraifft yma). Rydych chi angen defnyddio’r Hierarchaeth Rheoli Risg, yn ddelfrydol i ddileu’r risg. Dewis olaf yw Cyfarpar Diogelu Personol. Os oes gennych 5 neu fwy o weithwyr, byddai’n well pe baech yn ysgrifennu eich asesiad risg. Os ydych chi’n dymuno, fe allwch ei arddangos ar eich gwefan hefyd.
- Gweithio o adref lle y bo’n bosibl.
- Atal pobl sydd yn sâl neu a ddylai fod yn ynysu rhag dod mewn i adeiladau y busnesau, gweithwyr, y cyhoedd, contractwyr ac ymwelwyr.
- Cadw pellter cymdeithasol.
- Hylendid dwylo
- Atgyfnerthu’r neges o ran ymddygiad safonol ar gyfer hylendid anadlol/tagu da.
- Glanhau a diheintio yn unol â’r canllaw.
- Asesu awyru a llif aer mewn adeiladau.
- Lleihau lefelau sŵn i atal pobl rhag dod yn agosach i wrando.
- Ymgysylltu â gweithwyr a gwirfoddolwyr ar yr asesiad risg a syniadau defnyddiol yn ymarferol.
- Ystyried ymddygiad bodau dynol a defnyddio arwyddion, cyfarwyddiadau ar wefannau i atgyfnerthu eich system ac i sicrhau fod pobl yn eu dilyn.
- Y weithdrefn i’w dilyn os bydd rhywun yn yr adeilad yn datblygu symptomau neu’n cael prawf positif.
Nid yw’r rhestr hon yn gyflawn ac mae’n rhaid iddi ymdrin â phob gweithgaredd eich busnes. Mae’n rhaid i chi adolygu eich asesiad risg yn aml. Dylech hefyd ystyried effeithiau annisgwyl eich mesurau, Cymorth Cyntaf, Diogelwch Tân ac os nad yw mesur yn cael ei dilyn, pa weithred y dylech ei chymryd ar unwaith.
Byddem yn annog pob busnes i ddangos i’w gweithwyr a’u cwsmeriaid eu bod wedi asesu eu risgiau’n briodol a chymryd y mesurau priodol i’w lliniaru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i fanwerthwyr sydd ar gael yn https://llyw.cymru/manwerthwyr-canllawiau-coronafeirws. Ar dudalen 9 mae enghraifft o nodyn y byddwch am ei arddangos yn eich gweithle neu eich eiddo o bosibl i ddangos eich bod wedi dilyn y canllawiau hyn.Pan fyddwch wedi cwblhau’r gwaith i sicrhau bod eich eiddo yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, gallwch roi gwybod i bobl trwy arddangos nodyn ar eich eiddo – mae modd ei lawrlwytho yma.
Isod y mae dolenni a gwybodaeth gysylltu ddefnyddiol i’ch helpu i agor, neu gynllunio sut i agor eich busnes yn ddiogel.
Cofiwch fod yna nifer o bwyntiau sydd angen eu hystyried o ran y dolenni canllaw isod:
- Maent yn cael eu diweddaru’n rheolaidd
- Mae rhai yn seiliedig ar ddeddfwriaeth gwledydd eraill Prydain yn hytrach na Chymru felly gallant fod mymryn yn wahanol - dylech gyfeirio nôl i ddeddfwriaeth a chanllawiau coronafeirws Llywodraeth Cymru bob amser
- Enghreifftiau neu dempledi ydynt – dylai pob cyflogwr ystyried eu hamgylchiadau unigol nhw.
Welsh Government
Coronavirus legislation and guidance on the law
Reasonable measures
https://llyw.cymru/busnesau-a-chyflogwyr-coronafeirws
UK Government, BEIS
Department for Business, Energy & Industrial Strategy: working safely during coronavirus (eight guides covering a range of different types of work)
5 steps to working safely
Scottish Government
Coronavirus (COVID-19): guidance, including for the retail sector.
Checklist examples:
Operational checklist for retailers (source – Welsh Government)
Chartered Institute of Environmental Health (CIEH)
https://www.cieh.org/policy/coronavirus-covid-19/resources/
https://www.cieh.org/policy/coronavirus-covid-19/external-guidance/
Example risk assessment for COVID-19 in workplace
https://www.hseni.gov.uk/news/example-risk-assessment-covid-19-workplaces
https://www.cieh.org/media/4200/ehra-covid-19-andbc-ehpd-270420.docx
PHE
Public Health England and Department for Business, Energy & Industrial Strategy: guidance for employees, employers and businesses
CIMSPA
ReOpen: Sport and physical activity sector facility reopening guidance
ukactive
Coronavirus (COVID-19): Advice and guidance for the physical activity sector
ukactive recommended operational framework for gyms, leisure centres and the wider fitness industry to reopen safely in the UK
Legionella – Busnesau’n cael eu hatgoffa i wirio dŵr
Wrth i’r cyfnod clo barhau i lacio, mae busnesau a pherchnogion busnes yn cael eu hatgoffa i wirio bod eu heiddo wedi’i gynnal a’i gadw’n iawn wrth iddynt ailagor.Os oedd eich adeilad ar gau neu os oedd llai o bobl yno yn ystod cyfnod y coronafeirws (COVID-19), bydd dŵr wedi bod yn sefyll mewn systemau dŵr oherwydd nad ydynt wedi cael eu defnyddio, gan gynyddu’r risgiau o glefyd y llengfilwyr.
Fel rhan o’r broses ailagor, dylid adolygu systemau dŵr i sicrhau eu bod yn ddiogel i weithwyr a chwsmeriaid. Mae modd dal clefyd y llengfilwyr trwy anadlu dafnau bach o ddŵr i mewn sydd yn yr aer ac sy’n cynnwys bacteria Legionella. Mae symptomau’n cynnwys gwres, peswch sych a niwmonia. Gall y clefyd fod yn fwy difrifol i ddynion dros 50 oed, pobl sy’n ysmygu a phobl â chlefyd ysgyfaint cronig a systemau imiwnedd gwan. Nid yw’n lledaenu o’r naill berson i’r llall.
Gofynnir i bobl sy’n rheoli adeiladau neu’n berchen arnynt ddilyn y cyngor diweddaraf gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i helpu i leihau’r risg o glefyd y llengfilwyr wrth iddynt baratoi i ailagor yn dilyn y cyfnod clo.
Mae’n cynnwys llifolchi systemau dŵr oer gyda dŵr ffres o’r prif gyflenwad a chynyddu tymheredd systemau dŵr poeth yn uwch na 60°C os yw’n bosibl er mwyn diheintio’r system dŵr poeth yn thermol. Dylid gwneud hyn fel rhan o asesiad risg trylwyr ac mae’n bosibl y bydd angen gwneud gwaith arall.Mae angen rhoi ystyriaeth i bob system ddŵr. Mae hyn yn cynnwys systemau dŵr mewn siopau, siopau trin gwallt, swyddfeydd, gwestai, campfeydd, clybiau chwaraeon, clybiau golff, tafarndai, clybiau, bwytai ac eiddo a gaiff eu rhedeg ar sail wirfoddol.
Canllawiau ar ailagor salon trin gwallt a siop barbwr
Mae rhagor o wybodaeth ar gael o:
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd yn https://www.cieh.org/policy/coronavirus-covid-19/resources/
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn https://www.hse.gov.uk/coronavirus/legionella-risks-during-coronavirus-outbreak.htm
Legionella
ESGLI Guidance for managing Legionella in building water systems, spa pools, hot tubs during the COVID-19 pandemic
Food businesses
Food Standards Agency: reopening and adapting your food business during COVID-19
Federation of Small Businesses
https://www.fsb.org.uk/campaign/covid19.html
British Retail Consortium
https://brc.org.uk/news/corporate-affairs/social-distancing-in-retail-stores-and-warehouses/
Childcare settings
https://gov.wales/protective-measures-childcare-settings-keep-childcare-safe
Contact us
Health and Safety Enforcement Section
Flintshire County Council, County Hall, Mold, Flintshire, CH7 6NF
Tel 01352 703441
health.safety@flintshire.gov.uk