Masnachu ar y Sul
Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn caniatáu i siopau mawr (a ddiffinnir o dan y Ddeddf fel rhai sydd ag arwyneb gwerthu mewnol o dros 280 metr sgwâr) agor am chwe awr rhwng 10am a 6pm ar ddydd Sul.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i siopau mawr aros ar gau ar Sul y Pasg a Dydd Nadolig, ond dim ond os yw’n disgyn ar ddydd Sul. Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i siopau bach sy’n rhydd i agor. Mae’r Ddeddf Masnachu ar y Sul hefyd yn cynnwys mesurau penodol i warchod hawliau gweithwyr sy’n dymuno peidio â gweithio ar y Sul.
Ar wahân i’r cyfyngiadau a grybwyllir uchod, mae’r perchnogion yn rhydd i benderfynu ar eu horiau agor yn dibynnu ar y galw gan gwsmeriaid.
Hysbysiad masnachu a chofrestr masnachu ar y Sul
Cafodd y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Masnachu ar y Sul) 2004 wared ar y gofyniad gwreiddiol i siopau mawr hysbysu eu hawdurdodau lleol o’u horiau agor ar y Sul neu o unrhyw newidiadau. Nid oes raid i awdurdodau lleol gadw cofrestr o siopau mawr bellach. Mae siopau mawr yn dal i orfod cadw at y rheol o beidio â masnachu am fwy na chwe awr rhwng 10am a 6pm ar ddydd Sul ac maent yn gorfod arddangos yr oriau hyn yn yr adeiladau a thu allan.
Sul y Pasg a Dydd Nadolig (os yw ar ddydd Sul)
Mae Deddf Masnachu ar y Sul 1994 yn mynnu bod siopau mawr – sydd ag arwynebedd llawr dros 280 metr sgwâr, yn cau ar Sul y Pasg a Dydd Nadolig os yw ar ddydd Sul. Mae rhai eithriadau i’r rheol hon, sef:
a) Unrhyw siop ar fferm a lle mae’r fasnach neu’r busnes a gynhelir yn cynnwys gwerthu cynnyrch y fferm honno yn rhannol neu’n gyfan gwbl.
b) Unrhyw siop lle mae’r fasnach neu’r busnes a gynhelir yn cynnwys gwerthu diod feddwol yn rhannol neu’n gyfan gwbl.
c) Unrhyw siop lle mae’r fasnach neu’r busnes a gynhelir yn cynnwys gwerthu un neu fwy o’r pethau canlynol yn rhannol neu’n gyfan gwbl:
i) cyflenwadau ac ategolion i foduron, a
ii) chyflenwadau ac ategolion i feiciau.
ch) Unrhyw siop sy’n:
i) fferyllfa gofrestredig, ac
ii) ar gau i werthu nwyddau manwerthu heblaw am nwyddau meddyginiaethol a chyfarpar meddyginiaethol a llawfeddygol.
d) Unrhyw siop mewn maes awyr dynodedig.
dd) Unrhyw siop mewn gorsaf reilffordd.
e) Unrhyw siop mewn ardal gwasanaeth yn unol ag ystyr y Ddeddf Priffyrdd 1980.
f) Unrhyw orsaf betrol.
ff) Unrhyw stand a ddefnyddir i werthu nwyddau yn ystod arddangosfa.
g) Unrhyw siop a redir gan unigolion sy’n credu yn y Sabath Iddewig.
Gwybodaeth bellach
Cysylltwch â’r Is-adran Drwyddedu ar 01352 703030
E-bost - trwyddedu@siryfflint.gov.uk