Mae wi-fi a 5G, 4G a 3G yn fathau o dechnoleg a ddefnyddir er mwyn darparu cysylltiadau â ffonau symudol, gliniaduron a thabledi neu unrhyw ddyfais arall sydd angen eu cysylltu â rhwydwaith. Mae’r mathau hyn o dechnoleg yn cael eu defnyddio ledled y byd ac yn galluogi defnyddwyr i weithio, dysgu a rhyngweithio â gwybodaeth lle bynnag y gellir cael signal.
5G yw’r bumed genhedlaeth o dechnoleg cysylltedd symudol ac fel y cenedlaethau blaenorol (3G a 4G), mae 5G yn defnyddio’r sbectrwm radio. Mae’r sbectrwm radio yn cefnogi’r holl wasanaethau diwifr a ddefnyddir gan bobl a busnesau bob dydd - yn cynnwys gwneud galwad ar y ffôn symudol, gwrando ar y radio neu fynd ar-lein gan ddefnyddio wi-fi.
Sefydlodd Llywodraeth y DU y Grŵp Ymgynghori AGNIR (Advisory Group for Non-Ionising Radiation) er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion yn ymwneud ag ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio sy’n cael ei greu gan y mathau hyn o dechnoleg.
Cynhyrchodd yr AGNIR gyfres o asesiadau risg a ffurfiodd sail i gyhoeddiadau’r llywodraeth ac o ganlyniad mae Cyngor Sir y Fflint yn dilyn y cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae rhan o’r canllaw sy’n dynodi’r dehongliad o’r risg i’w weld isod.
“Yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r cyngor arbenigol, nid oes angen i aelodau’r cyhoedd gymryd unrhyw gamau arbennig i leihau cyswllt â’r lefelau isel o donnau radio o rwydweithiau ac offer wi-fi (er enghraifft, fel y defnyddir mewn lleoliadau cyhoeddus), mesuryddion clyfar neu orsafoedd sylfaen ffonau symudo".
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Llywodraeth y DU (ar gael yn Saesneg yn unig).
“Nid oes unrhyw dystiolaeth gyson hyd yma sy’n dangos bod amlygiad i signalau radio gan wi-fi a WLAN yn cael effaith andwyol ar iechyd y cyhoedd yn gyffredinol”.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r technolegau hyn dylech gysylltu â’r AGNIR drwy eu cysylltiad ymholiadau cyffredinol (ar gael yn Saesneg yn unig).
E-bost: enquiries@phe.gov.uk
Public Information Access Office
Public Health England
Wellington House
133-155 Waterloo Road
London
SE1 8UG