Alert Section

Trawsnewid Trefi - Cwestiynau Cyffredin


Beth yw’r cyllid creu lleoedd Trawsnewid Trefi? 
Mae rhaglen Trawsnewid Trefi yn fenter gan Lywodraeth Cymru y mae Cyngor Sir y Fflint yn rhan ohoni, ac mae’n cynnwys 2 ffordd o hwyluso buddsoddiad.

  1. Cynllun cyllido grantiau cyfalaf sy’n cwmpasu nifer o weithgareddau adfywio buddsoddiad cyfalaf yng nghanol trefi ar draws trefi yn Sir y Fflint.
  2. Cynllun buddsoddi ar ffurf benthyciad sy’n galluogi ymgeiswyr i sicrhau cyllid di-log sy’n ad-daladwy (fel arfer dros gyfnod o hyd at 5 mlynedd).

Gellir ariannu prosiectau sy’n ceisio buddsoddiad trwy naill ai 1) grant yn unig, 2) benthyciad yn unig neu 3) cymysgedd o gyllid grant a benthyciadau.

Pa fuddsoddiad ellir ei wneud? 
Mae enghreifftiau o brosiectau y gallech gael cefnogaeth ar eu cyfer yn cynnwys:

  • datblygu eiddo wedi’u tanddefnyddio, sy’n wag neu sydd wedi mynd â’u pen iddynt yn fusnesau, tai, cyfleusterau hamdden, eiddo masnachol neu gyfleusterau cymunedol
  • gwella ymddangosiad eiddo a/neu eu hailffurfio i’w gwneud yn fwy hyfyw
  • gwella eiddo presennol trwy gyflwyno gwasanaethau arloesol a chysylltedd, fel band eang cyflym, a fydd yn denu busnesau

Pryd mae’r cynllun ar agor?
Mae’r cynllun ar agor nawr. I gael rhagor o fanylion neu i drafod unrhyw syniadau, cysylltwch â regeneration@flintshire.gov.uk

Faint o gyllid Trawsnewid Trefi sydd ar gael?
Mae uchafswm o £250,000 o gyllid grant ar gael ar gyfer pob prosiect.

Mae uchafswm o £210,000 o fuddsoddiad ar ffurf benthyciad ad-daladwy ar gael ar gyfer pob prosiect.

Bydd Swyddogion yn Nhîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gydag ymgeiswyr i gwmpasu eu prosiect, edrych ar hyfywedd ariannol, fforddiadwyedd, cymysgedd ariannu (gan gynnwys cyfraniadau y gall ymgeiswyr eu gwneud eu hunain) a chefnogi prosiectau arfaethedig i sefydlu allbynnau sydd wedi’u halinio â’r rhaglen Trawsnewid Trefi.

Pwy all wneud cais?
Mae’r cynllun ar agor i fusnesau preifat, gan gynnwys datblygwyr, busnesau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus.  Nid yw ar gael i unigolion preifat. 

Er mwyn gwirio eich cymhwysedd ar gyfer y cynllun, cysylltwch â Swyddogion Adfywio Cyngor Sir y Fflint. 

Sut caiff y cynllun ei weinyddu?
Mae’r cynllun yn cael ei reoli gan Gyngor Sir y Fflint ar y cyd â phartneriaid o bob cwr o Ogledd Cymru.  Mae swyddogion cyswllt ar gael i gynghori ymgeiswyr am sut i wneud cais cryf.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael contract ariannu gan Gyngor Sir y Fflint.

Sut caiff y ceisiadau eu hasesu?
Caiff ceisiadau eu hasesu gan banel sy’n cynnwys gweithwyr adfywio proffesiynol o bob cwr o Ogledd Cymru sy’n asesu pob cais am gyllid yn erbyn meini prawf penodol, fel sydd wedi’u cynnwys yn y canllawiau Trawsnewid Trefi.  Cyn y panel, bydd un o Swyddogion Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgeiswyr i sicrhau bod prosiectau sy’n cael eu datblygu wedi’u halinio â nodau, amcanion a meini prawf ariannu, a bod cefnogaeth wedi’i sicrhau gan y Cyngor i ddatblygu’r cais i’r panel traws-awdurdod roi ystyriaeth iddo.  Pan fydd y panel wedi gwneud penderfyniad, bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadarnhau’n ysgrifenedig faint o gyllid sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer y cynllun, ac amlinellu’r telerau ac amodau sy’n gysylltiedig â’r cyllid mewn contract a sut caiff hyn ei fonitro.

Sut gallaf i wneud cais?
Cysylltwch â’ch swyddog adfywio lleol i drafod eich cynllun yn regeneration@flintshire.gov.uk.  Mae’r gefnogaeth a gynigir i ymgeiswyr rhaglen Trawsnewid Trefi yn rhad ac am ddim.  Cynghorir ymgeiswyr am beth maen nhw angen ei wneud er mwyn datblygu prosiectau llwyddiannus a sut i gwblhau gwaith papur y prosiect (cais 2 gam) a pha dystiolaeth i’w darparu.