Beth ydym ni’n ei wneud?
Mae gennym ni bellach dros 100 o safleoedd ar draws ystâd Cyngor Sir y Fflint sy’n cael eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt a phryfed peillio. Mae gennym ni ystod o safleoedd, o safleoedd naturiol amrywiol, lle’r ydym ni wedi dechrau rheoli’r safleoedd i warchod y banc hadau gwyllt presennol, safleoedd blodau gwyllt wedi’u hadu, safleoedd tyweirch blodau gwyllt a safleoedd plannu blodau gwyllt plwg. Mae’r rhain i gyd o fudd enfawr i’n peillwyr gan eu bod nhw’n darparu cerrig sarn o gynefinoedd yn y dirwedd.
Efallai eich bod chi wedi gweld ein harwyddion Ardal Natur sy’n cael eu gosod i dynnu sylw at yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli ar gyfer natur. Rydym ni wedi buddsoddi arian grant mewn peiriannau newydd a fydd yn casglu’r gwair wedi’i dorri a system rheoli chwyn nad yw’n gemegol, sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan ein ceidwad cefn gwlad a’n tîm gwasanaethau stryd.
Bydd y rhan fwyaf o’n safleoedd blodau gwyllt yn cael eu torri unwaith ar ddiwedd yr haf/dechrau’r hydref ar ôl i’r blodau gwyllt flodeuo a hadu. Bydd yr hyn sydd wedi’i dorri ar y safleoedd yn cael ei gasglu er mwyn sicrhau’r amodau cywir i flodau gwyllt barhau i dyfu.
Mwy o wybodaeth am reoli dolydd
Ble i ddod o hyd i flodau gwyllt
Mae llawer o safleoedd blodau gwyllt o amgylch Sir y Fflint yn ein mannau trefol. Chwiliwch am eich cod post yn y map isod i ddod o hyd i'ch safle blodau gwyllt lleol i’w ddilyn y gwanwyn hwn!
Gallwch weld y map o safleoedd blodau gwyllt yn Sir y Fflint