Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig sy'n ceisio gwella iechyd a lles oedolion llonydd ac anweithgar sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd ag un eisoes. Mae'n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion sy'n cael eu hatgyfeirio gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i wreiddio arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.
I gael manylion ar gymhwysedd, mynediad a chost, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu cysylltwch â Chydlynydd NERS Gwella ar info@siryfflint.gov.uk.