Alert Section

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fo Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn prosesu eich data personol ar gyfer gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd.

Y data a gasglwn amdanoch chi

Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn casglu categorïau amrywiol o wybodaeth bersonol, yn dibynnu ar y gwasanaethau yr ydych yn eu defnyddio. Wrth benderfynu ar ba wybodaeth bersonol i’w chasglu, ei defnyddio a’i chadw, mae Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn ymroddedig i sicrhau y byddwn:

  • Yn casglu, storio a defnyddio gwybodaeth bersonol lle mae’n angenrheidiol ac yn deg i wneud hynny’n unig;
  • Yn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel a saff;
  • Yn cael gwared ar unrhyw wybodaeth bersonol yn ddiogel pan nad oes ei hangen bellach;
  • Yn dryloyw gyda chi ynglŷn â sut ydym yn defnyddio eich gwybodaeth a chyda phwy yr ydym yn ei rhannu; a
  • Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn unol â’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig.

Sut ydym yn defnyddio eich data personol

Yr ydym yn casglu gwybodaeth amdanoch i sicrhau ein bod yn rhoi gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd diogel a llawn mwynhad i chi, i reoli ein cyfrifon cwsmeriaid yn effeithiol, ac, os ydych yn cytuno, i gysylltu â chi am gynhyrchion a gwasanaethau eraill a gynigiwn yr ydym yn meddwl a fyddai o ddiddordeb i chi.

Ar gyfer gwasanaethau llyfrgell, prosesir eich data personol yn rhan o’n tasg gyhoeddus dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus 1964 i ddarparu gwasanaethau llyfrgell.

Ar gyfer gwasanaethau hamdden, prosesir eich data personol er mwyn cyflawni contract rhyngom.

A ydych yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol?

Pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’n gwasanaethau llyfrgell mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n ddiogel ar system rheoli llyfrgelloedd a rennir sy’n storio cofnodion y benthyciwr ar gronfa ddata. Mae hon yn bartneriaeth rhwng awdurdodau Llyfrgelloedd Cymru. Mae ein gwasanaethau yn cydweithio i rannu costau a chynnig gwasanaethau gwell i gwsmeriaid. Ni fydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydag unrhyw drydydd parti, oni bai bod angen gwneud hynny’n ôl y gyfraith.

Am faint ydych chi’n cadw fy ngwybodaeth bersonol?

Bydd Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn cadw eich gwybodaeth am 6 mlynedd o ddyddiad ei chasglu, oni bai bod yr wybodaeth yn ymwneud â chofnodion Iechyd a Diogelwch ar gyfer plant dan 18 mlwydd oed. Yn yr amgylchiadau hyn cedwir eich gwybodaeth am 3 blynedd ar ôl i’r plentyn gael ei ben-blwydd yn 18 mlwydd oed.

Dewisiadau cyfathrebu

Cwsmeriaid sydd yn dewis optio i mewn ac yn cytuno i dderbyn gwybodaeth farchnata am ddigwyddiadau neu wasanaethau yr ydym ni’n eu cynnig fydd y cyntaf i glywed am:

  • Wasanaethau, dosbarthiadau a gweithgareddau newydd
  • Lleoedd sydd ar gael mewn sesiynau poblogaidd
  • Dyddiadau talu am gyrsiau
  • Cynigion arbennig a gostyngiadau

Os credwch fod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gellwch wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’r wefan neu drwy ffonio’r llinell gymorth ar 0303 123 1113. I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx

Newidiadau i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Yr ydym yn parhau i adolygu ein Hysbysiad Preifatrwydd a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.

Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Hydref 2024.