Drwy ymuno â’r llyfrgell, rydych yn cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau ac amodau’r aelodaeth ac yn cytuno i gadw at y telerau hyn, am hyd ein contract.
Amodau Cyffredinol Aelodaeth
- Mae aelodaeth llyfrgell yn eich galluogi i ddefnyddio holl wasanaethau’r llyfrgell a ddarperir gan Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint Cyfyngedig a’n sefydliadau partner. Pan fyddwch wedi ymuno fel aelod llawn, byddwch yn cael cerdyn aelodaeth llyfrgell a PIN, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
- Mae’n ofynnol i aelodau llyfrgell gyflwyno eu cerdyn aelodaeth llyfrgell pan fyddant yn benthyca eitemau ac yn defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.
- Fel aelod llyfrgell, rydych yn gyfrifol am yr holl eitemau a fenthycir ar eich cerdyn llyfrgell, gan gynnwys unrhyw eitemau coll/wedi’u difrodi, y bydd angen talu amdanynt o bosib, ac am dalu am unrhyw ffioedd neu daliadau hwyr sydd ar eich cyfrif llyfrgell.
- Os caiff y cerdyn ei golli, rhaid rhoi gwybod i’r llyfrgell.
- Rydych yn gyfrifol am roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion personol, er enghraifft, newid cyfeiriad.
- Rydych yn cadw’r hawl i derfynu eich cyfrif ar unrhyw adeg.
- Pe baech yn dymuno canslo eich aelodaeth llyfrgell, rhaid i chi ddychwelyd yr holl eitemau rydych wedi’u benthyca, a dychwelyd eich cerdyn aelodaeth i’w ganslo. Os oes unrhyw daliadau’n weddill ar eich cyfrif llyfrgell, bydd disgwyl i chi eu talu.
Mae Llyfrgelloedd a Hamdden Sir y Fflint yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i’n cwsmeriaid a chydweithwyr, sy’n gofyn am ymddygiad derbyniol gan bawb.
Gofynnwn fod pawb yn cael ei drin â pharch, ac na ddylai unrhyw un orfod ymdrin ag ymddygiad neu weithredoedd afresymol, ymosodol, brawychus, bychanol neu fygythiol.
Bydd methu â bodloni’r disgwyliadau hyn yn gallu arwain o bosibl at dynnu gwasanaethau’n ôl, cael gwared ar freintiau eich aelodaeth, a gofynnir i chi adael ein hadeilad.
Defnyddio Cyfrifiaduron y Llyfrgell a’r Rhyngrwyd
Gwneir y telerau ac amodau hyn o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964.