Alert Section

Cynlluniau Nofio Am Ddim

Gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, mae Gwella yn cynnig sesiynau nofio am ddim ar gyfer: 

  • Plant a phobl ifanc 16 oed ac iau yn ystod y gwyliau 
  • Pobl 60 oed a hŷn 
  • Cyn-filwyr a phersonél gweithredol y Lluoedd Arfog (mae’n rhaid iddynt fod yn byw yng Nghymru). 
swoosh

Sut i Gofrestru

Er mwyn gallu manteisio ar y sesiynau nofio am ddim, mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan gofrestru â Gwella a dangos eu cerdyn Gwella ym mhob sesiwn nofio.  Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i blant a phobl hŷn.

Pwysig: Os na fyddwch chi’n dangos eich cerdyn Gwella yn nerbynfa’r pwll, bydd angen i chi dalu’r ffi mynediad. 

Ar gyfer Preswylwyr 60+ oed: Mae’n rhaid i chi ddarparu prawf adnabod dilys (pasbort, trwydded yrru, cerdyn bws ac ati) yn y dderbynfa i fod yn gymwys.

Ar gyfer Personél y Lluoedd Arfog: Mae’n rhaid i gyn-filwyr ac aelodau gweithredol fod â Cherdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn. Os nad oes gennych chi un, gallwch ei brynu gan Wasanaeth Gostyngiad y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Yn ystod eich ymweliad cyntaf, bydd aelod o dîm derbynfa’r ganolfan hamdden yn gwirio eich cerdyn ac yn cofrestru eich cyfrif fel bod modd i chi fanteisio ar y sesiynau nofio am ddim.

Sylwer: Nid oes modd defnyddio’r cynnig hwn ar gyfer priod, partneriaid, aelodau o’r teulu na ffrindiau.