Skate UK
Mae rhaglen sglefrio Skate UK yn dysgu sgiliau symud ar y rhew a sglefrio sylfaenol mewn 8 o gamau clir gan sicrhau bod sglefrwyr o bob oed yn cael dealltwriaeth gadarn o sut i sglefrio ar rew drwy brofion graddedig.
Sglefrwyr Bach a Dreigiau Bach
- Pryd: Dyddiau Mercher, 5:00 YP-5:30 YP
- Wedi’i ddylunio ar gyfer sglefrwyr o dan 6 oed, mae’r sesiwn hwn i rieni a phlant bach yn cyflwyno plant ifanc i sglefrio drwy gemau a gweithgareddau hwyliog dan arweiniad hyfforddwyr cymwys. Mae’n rhaid i rieni fod yn sglefrwyr digon da i allu helpu eu plentyn.
Dreigiau Dewr
- Pryd: Dyddiau Gwener, 4:00 YP-5:00 pm
- Yn cael ei gynnig gan Glwb Hoci Iâ Iau Dreigiau Glannau Dyfrdwy, mae’r sesiwn hwn yn dysgu sgiliau hoci iâ sylfaenol ynghyd ag elfennau o raglen Skate UK. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fod wedi cwblhau lefelau 1 – 4 Skate UK.
I gael manylion am y rhaglenni a’r meini prawf dyfarnu, ewch i Ice Skating UK.
Gwersi Skate UK drwy daliadau debyd uniongyrchol: £34.00 y mis.
Ffoniwch 01352 704200 i archebu eich gwersi.