Archebu Gwersi Nofio
Wyneb yn Wyneb: Ewch draw i un o’n canolfannau hamdden i siarad gydag Ymgynghorydd Cwsmeriaid. Byddant yn eich helpu i gofrestru eich plentyn a thrafod dewisiadau talu.
Ar-lein: Gallwch hefyd holi am wersi drwy anfon e-bost at swim@siryfflint.gov.uk. Nodwch eich dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg). Rydym yn ymdrechu i ddarparu gwersi yn Gymraeg, yn amodol ar y galw ac argaeledd hyfforddwyr.