Alert Section

Enwi a Rhifo Strydoedd


O 1 Ebrill 2017, mae'n fwriad gan Gyngor Sir y Fflint i godi tâl am eu gwasanaeth enwi a rhifo strydoedd, yn unol â chynghorau eraill yng Nghymru. Mae manylion y rhestr codi tâl ar gael yn yr adran lawrlwytho.

Cyngor Sir y Fflint sy’n gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd ac adeiladau yn Sir y Fflint. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i enwau strydoedd newydd ac enwau a rhifau adeiladau yn cael eu dyrannu’n rhesymegol sydd, ymhlith pethau eraill, yn sicrhau bod post yn cael ei ddanfon yn effeithiol a bod cerbydau gwasanaeth brys yn gallu lleoli cyfeiriadau yn hawdd.

Ar gyfer enwi a rhifo datblygiadau newydd, mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriadau ag Aelodau Lleol, Cynghorau Tref / Cymuned, Gwasanaeth Rheoli Cyfeiriadau a Gwasanaeth Cyfieithiadau Gymraeg y Cyngor i gytuno ar enw stryd addas. Yna, bydd y Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd yn rhifo’r eiddo yn rhesymegol ar hyd y stryd.

Os bydd arnoch angen cyfeiriad ar gyfer eiddo newydd, bydd angen i chi wneud cais yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen ‘Cofrestru Cyfeiriad Post Swyddogol’ sydd ar gael yn yr adran lawrlwytho.

Os ydych am newid enw eich eiddo neu i ychwanegu enw tŷ, bydd angen i chi wneud cais yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen 'Cais i newid enw neu rif eiddo' sydd ar gael yn yr adran lawrlwytho.

Gellir anfon ffurflenni cais drwy'r post neu drwy e-bost i'r cyfeiriadau isod;

Rheoli Adeiladu
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir 
Yr Wyddgrug
CH7 6NA

Cyfeiriad E-bost: bcadmin@flintshire.gov.uk

Y Post Brenhinol sy’n gyfrifol am ddyrannu a rheoli codau post, felly os yw eich ymholiad yn ymwneud â hyn, cysylltwch â’r Post Brenhinol neu ewch i’w gwefan.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach mewn perthynas ag unrhyw un o'r uchod, cysylltwch â'r Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd ar 01352 703637 neu drwy e-bost: bcadmin@flintshire.gov.uk