20mya - Ardal Anheddiad Cam Un - Bwcle
Canlyniadau ar gael
Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod
Yn y cyfnod cyn cyflwyno deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfyngiadau cyflymder 20mya, cafodd wyth cymuned ar hyd a lled Cymru eu dewis ar gyfer cam cyntaf y rhaglen genedlaethol.
Fel rhan o’r Rhaglen Anheddiad Cam Un hwn, cafodd cyfyngiadau cyflymder 20mya eu cyflwyno ym Mwcle, Mynydd Isa, New Brighton, Drury, Burntwood, Bryn y Baal ac Alltami ar 28 Chwefror 2022.
Yn gyffredinol o blaid 20mya ar stadau preswyl ac o amgylch ysgolion, mynegodd pobl leol bryder ynglŷn â’i gyflwyno ar brif ffyrdd a strydoedd (prif lwybrau allweddol).
Yn ymwybodol o’r pryderon hyn, mae trafodaethau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru wedi’u cynnal ac mae’r Cyngor wedi bod yn casglu barn trigolion lleol i helpu i ddylanwadu ar adolygiad a deall pryderon ynglŷn â ffyrdd penodol.
Canlyniadau
Gan ymrwymo i gyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad hwn erbyn diwedd Mawrth 2023 mae’r dudalen hon yn cynnwys:
- trosolwg cyffredinol o’r adborth o’r digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac arolwg aelwydydd
- canlyniadau ailasesiad y Cyngor o ffyrdd lleol ym Mwcle a’r ardal gyfago
Fe fydd gwersi a ddysgwyd gan y Cyngor yn ystod Rhaglen Anheddiad Cam Un nawr yn cael eu hymgorffori i’r gwaith o gynllunio ar gyfer cyflwyno 20mya yn genedlaethol ar 17 Medi 2023.
Mae’r adborth a gasglwyd a chanlyniadau ailasesiad y Cyngor o ffyrdd lleol hefyd wedi eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru ar gyfer eu hystyried.
Ardal Anheddiad Cam Un - Bwcle - 28 Chwefror 2022