Alert Section

Ymgynghori Strategaeth Adnoddau a Gwastraff


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Canlyniadau

Mae’r Cyngor yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus fod yn ddi-garbon net erbyn 2030. Mae gan y Cyngor Strategaeth Newid Hinsawdd glir, sy’n cynnwys prif amcanion a chamau gweithredu ar gyfer creu sefydliad di-garbon.  Mae lleihau defnydd o bethau na ellir eu hailddefnyddio a chynyddu eich defnydd o’r hyn y gallwch eu hailddefnyddio a’u hailgylchu i arbed adnoddau gwerthfawr yn rhan allweddol o gyrraedd sero net.

Mae’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft yn nodi cyfeiriad y Cyngor i leihau gwastraff a rhagori ar dargedau statudol Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu, rhai nad ydynt yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd. Heb weithredu bydd yr Awdurdod mewn perygl o gael dirwyon gwerth £1.13 miliwn am beidio â chyflawni’r targedau hyn yn 2021/2022 a 2022/2023 a mwy o berygl o ddirwyon tebyg yn 2023/2024.

Rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024 gofynnwyd i Aelodau, preswylwyr a chymunedau i ddweud eu dweud ar Strategaeth Adnoddau a Gwastraff ddrafft y Cyngor.    Roedd hyn er mwyn deall pa mor agos oedd blaenoriaethau a disgwyliadau defnyddwyr gwasanaeth wedi eu halinio gydag amcanion y Cyngor.  

Roedd yr ymgynghoriad wedi ei hyrwyddo drwy ystod eang o sianeli, gan gynnwys: 

  • Gwefan y Cyngor
  • Datganiad i'r Wasg
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • E-fwletinau i 30,000 o ragnodwyr
  • Briffio Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd a Chynghorau Tref a Chymuned
  • Briffio a gweithdai ar gyfer Cynghorwyr Sir etholedig

Roedd yna sawl ffordd y gallai pobl gymryd rhan:

  • Arolwg ar-lein ar wefan y Cyngor
  • Arolygon papur ar gael mewn Canolfannau Cyswllt, Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ac ar gais
  • Un ar ddeg o sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb wedi eu cynnal mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Canolfannau Cyswllt/llyfrgelloedd ac ym Mharc Wepre, Cei Connah.

Roedd cyfanswm o 5,333 o bobl wedi cymryd rhan (Dogfen 1 - Ymatebion i Gwestiynau). 

Yn gyffredinol, roedd yna lawer o gefnogaeth i amcanion y Cyngor gan y mwyafrif o bobl oedd wedi cymryd rhan: 

  • Newid hinsawdd a bod yn garbon niwtral erbyn 2030
  • Cefnogi a rhoi cyfleoedd i breswylwyr i gwtogi, lleihau, atgyweirio ac ailddefnyddio mwy, ynghyd ag ailgylchu mwy
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu gyda phreswylwyr i helpu i hybu cyfleoedd a chynyddu’r niferoedd sy’n manteisio arnynt
  • Cwtogi a buddsoddi yn isadeiledd gwastraff ac ailgylchu’r Cyngor
  • Defnyddio gorfodaeth effeithiol ar gyfer diffyg cydymffurfio parhaus

Er bod yna lawer o gefnogaeth ar gyfer y mwyafrif o fesurau a chamau gweithredu wedi eu dylunio i symud pobl i arferion lleihau gwastraff a gwaredu mwy cynaliadwy, pan ofynnwyd am nifer o ddulliau oedd â’r potensial ar gyfer effaith mwy uniongyrchol ar aelwydydd unigol, roedd yr ymateb wedi’i rannu’n fwy cyfartal.  Roedd hyn yn ymwneud â:

  • Lleihau amlder y casgliadau biniau du neu ddarparu biniau llai.
  • Atal gwaredu gwastraff y gellir ei ailgylchu mewn biniau du.
  • Cyflwyno camau gorfodi yn erbyn y sawl nad ydynt yn ailgylchu o gwbl neu’n anghywir.

Fodd bynnag, o’r nifer o bobl oedd heb benderfynu, roedd yn amlwg bod yna fwy o waith i’w wneud i helpu cymunedau ddeall sut mae’r mesurau uniongyrchol hyn, ynghyd â chamau gweithredu unigol yn hanfodol ar gyfer cyflawni’r pum nod a gefnogwyd yn gryf, sydd wedi eu rhestru isod:  

  • Bod yn Gyngor di garbon net erbyn 2030 a chefnogi camau gweithredu datgarboneiddio ehangach ledled y Sir.
  • Rhoi blaenoriaeth i leihau gwastraff drwy feithrin cyswllt â’n cymunedau’n rhagweithiol.
  • Cyflawni targedau Llywodraeth Cymru i ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio mwy na 70% o’r gwastraff a gasglwn.
  • Darparu gwasanaethau effeithlon, dyfeisgar a chost-effeithiol.
  • Arfer dulliau gorfodi cymesur ac effeithiol rhag diffyg cydymffurfiaeth.
  • Po fwyaf yr ydym i gyd yn lleihau ein gwastraff ac yn ailgylchu mwy gartref, yn y gwaith neu pan fyddwn allan, po fwyaf y budd i bawb.

Bydd cadw’r dulliau mwy uniongyrchol hyn yn y Strategaeth Adnoddau a Gwastraff yn annog pobl gydag arferion ailgylchu gwael parhaus i newid i ymddygiad ailgylchu mwy cynaliadwy.

Roedd pobl yn gallu dweud mwy wrthym pam eu bod wedi ymateb yn y ffordd y gwnaed ac yn cynnig sylwadau ychwanegol i’r cwestiynau a ofynnwyd.    Cafodd yr wybodaeth hon ei hadolygu a’i chategoreiddio fel a ganlyn (Dogfen 2 - Sylwadau i’r Ymgynghoriad ac Ystyriaeth): 

  • Gwyrdd: wedi ei gynnwys eisoes yn y strategaeth ddrafft.
  • Oren: heb ei gynnwys yn y strategaeth ddrafft ac yn dilyn ystyriaeth lawn cafodd ei gynnwys yn y strategaeth derfynol.
  • Coch: awgrymiadau a oedd yn gwrthdaro ac yn cael effaith niweidiol negyddol ar gymunedau, gweithredu dros yr hinsawdd, nod ac amcanion y Cyngor a thargedau Llywodraeth Cymru.  Nid oedd y rhain wedi eu cynnwys yn y strategaeth derfynol. 

Set gynhwysfawr o gwestiynau cyffredin wedi eu cyhoeddi yn rhoi mwy o fanylion ar y sylwadau/awgrymiadau a dderbyniwyd a pham ei bod/nad oedd yn bosibl eu cynnwys yn y strategaeth derfynol.  

Yn dilyn ystyriaeth lawn o’r holl ymatebion a dderbyniwyd, paratowyd a chyflwynwyd y strategaeth derfynol i Gabinet y Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth ar 12 Mawrth 2024 ac mae’r Strategaeth Adnoddau a Gwastraff nawr yn cael ei gweithredu.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 01/12/2023

    Caewyd: 12/01/2024

  • Manylion cyswllt
  • Gwasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth - Gwasanaethau Rheoleiddio

    E-bost: Streetsceneadmin@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 701234