Alert Section

Arolwg Newid Hinsawdd


Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Newid Hinsawdd gyntaf sydd wedi galluogi dull cydweithredol ac wedi’i reoli o sicrhau bod allyriadau carbon y Cyngor yn cael eu lleihau tra’n arwain at fanteision ychwanegol megis lleihau costau rhedeg, mannau gwyrdd gwell ac ymgysylltu. Ers mesuriad carbon cyntaf y Cyngor yn 18/19, yn ôl y 2022/23 ffigurau, mae allyriadau o dan ei reolaeth wedi gostwng 27.2% ar gyfer Adeiladau a 17.9% ar gyfer Symudedd a Chludiant.

Mae’r Cyngor bellach yn cynnal adolygiad wedi'i gynllunio o’i strategaeth er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol, yn cael effaith ac yn cymryd yr hyn sydd wedi’i ddysgu o waith blaenorol, ac mae galw ar breswylwyr Sir y Fflint i roi gwybod i’r Cyngor beth sy’n bwysig iddyn nhw a sut y gellir mynd i’r afael â newid hinsawdd. 

Gall preswylwyr roi eu barn drwy arolwg Arolwg Newid Hinsawdd ac fe’u hanogir i ddarllen y Strategaeth bresennol a/o dudalen we Newid Hinsawdd ymlaen llaw. Bydd yr arolwg yn cau ar 30 Medi 2024, ac yna bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u dadansoddi er mwyn eu hystyried. Bydd adborth ar ymgysylltu a'r cyhoedd yn Tachwedd 2024.

Ewch i 'Give My View'

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 22/08/2024

    Dyddiad cau: 30/09/2024

  • Manylion cyswllt
  • Newid Hinsawdd

    E-bost: newidhinsawdd@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923