Alert Section

Cynllun y Cyngor (2023-2028)


Mae Cynllun y Cyngor (2023-28) yn rhestr o bethau mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wneud i gefnogi pobl leol a chymunedau. 

Wrth nodi’r hyn rydym yn bwriadu ei wneud, rydym wedi rhoi ystyriaeth i sut gallwn ni helpu pobl heddiw a sut gallwn ddiogelu lles pobl yn y dyfodol - ein plant ni a phlant ein plant.  ‘Amcanion Lles’ yw’r enw ar y rhain.

Nid yw popeth mae’r Cyngor yn ei wneud wedi’i grybwyll yng Nghynllun y Cyngor (2023-28), ond bob dydd mae’r holl waith a gyflawnir gan y Cyngor, yn ei ffordd ei hun, yn helpu i ddarparu'r hyn rydym am ei wneud.

Mae Ein Cynllun y Cyngor (2023-28), sy’n cynnwys manylion am ein hamcanion Lles, ar ein gwefan. 

 Hoffem ofyn rhai cwestiynau i chi am beth sy’n bwysig i chi.  Bydd yr atebion a roddwch i ni yn ein helpu i ddeall a yw’r pethau rydym yn eu rhestru yn y Cynllun y Cyngor (2023-2028) yn iawn neu oes angen eu newid. 

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn Sir y Fflint ateb y cwestiynau, er enghraifft, pobl sy’n byw yma, sy’n mynd i’r ysgol neu’r coleg yma, sy’n berchen ar fusnes neu’n gweithio yma, neu sy’n ymweld â’r ardal, neu’n dod yma i siopa neu ar wyliau.

Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar wefan y Cyngor

Bydd eich adborth yn helpu i lywio ein hadolygiad canol tymor o Gynllun y Cyngor (2023-28) a deall os yw’r pethau a restrir ar hyn o bryd yn bwysig i chi neu os ydym wedi methu rhywbeth. 

Bydd canlyniadau eich adborth yn ein helpu ni yn ystod y broses adolygu gyda budd-ddeiliaid mewnol a bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Aelodau’r Cabinet. 

Bydd canlyniadau eich adborth yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan a’i gynnwys yn yr adroddiadau i’r Pwyllgorau.  

Ewch i 'Smart Survey'

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 12/08/2024

    Dyddiad cau: 07/10/2024

  • Manylion cyswllt
  • Tim Perfformiad a Rheoli Risg

    E-bost: prm@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923