Alert Section

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint – Ymgynghori ynghylch Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft


Yn sgil mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, wedi llunio Canllawiau Cynllunio Atodol drafft ar gyfer y meysydd polisi canlynol:

Mae’r canllawiau’n egluro sut y bydd y Cyngor yn ymdrin â chynigion datblygu sy’n gysylltiedig â’r meysydd polisi uchod. Nid yw’r canllawiau’n cyflwyno unrhyw bolisïau newydd, ond yn hytrach yn ceisio egluro sut y dylid dehongli’r polisïau perthnasol a’u gweithredu.

Os mabwysiadir y Canllawiau Cynllunio Atodol wedi’r ymgynghoriad, byddant yn ystyriaeth gynllunio berthnasol wrth benderfynu ceisiadau cynllunio ac apeliadau. Byddai modd defnyddio’r Canllawiau, felly, yn ystod y camau cyntaf wrth ddylunio datblygiad newydd.

Cyhoeddir y Canllawiau ar ffurf drafft at ddibenion ymgynghoriad â’r cyhoedd a budd-ddeiliad a fydd yn dechrau 23/09/2024 ac yn dod i ben 04/11/2024. Dilynwch y ddolen gyswllt isod i weld y dogfennau ar wefan Cyngor Sir y Fflint, ac mae copïau hefyd ar gael mewn Canolfannau Cysylltu, yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a Thŷ Dewi Sant yn Ewlo.

Mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn awyddus i glywed gan amrywiaeth helaeth o sefydliadau statudol ac anstatudol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau gwirfoddol a’r cyhoedd yn ogystal ag ymgynghorwyr cynllunio ac asiantiaid lleol. Caiff eu sylwadau eu hystyried yn ofalus a byddant o fudd i’r Cyngor yn ystod y drefn o gymeradwyo’r Canllawiau a’u cyhoeddi. Bydd y Grŵp Strategaeth Cynllunio’n mynd ati gyntaf i ystyried y sylwadau a dderbynnir ac unrhyw newidiadau sydd eu hangen yn y Canllawiau, cyn i’r Cabinet roi sêl bendith terfynol arnynt.

Dylid anfon sylwadau i Gyngor Sir y Fflint erbyn 5.00pm ar Dydd Llun 04 Tachwedd 2024 gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:

  • Llenwi’r ffurflen ar-lein ar wefan Cyngor Sir y Fflint: https://www.smartsurvey.co.uk/s/Planning-SPG/
  • Anfon e-bost i cynlluniaudatblygu@siryfflint.gov.uk
  • Ysgrifennu at Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Canllawiau drafft neu’r ymgynghoriad, ebostiwch/ ffoniwch:

  • cynlluniaudatblygu@siryfflint.gov.uk
  • 01352 703213
  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 23/09/2024

    Dyddiad cau: 04/11/2024

  • Manylion cyswllt
  • Polisi Cynllunio

    E-bost: cynlluniaudatblygu@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 703213