Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Gwahoddiad i’r Lansiad
Published: 11/07/2014
Mae’r frwydr yn erbyn rhywogaethau estron goresgynnol wedi dechrau trwy lansio
Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy – Yr Ymosodiad yn Wrecsam.
Dros y penwythnos ymunodd arweinwyr cymunedau, hyrwyddwyr yr amgylchedd a’r
cyhoedd mewn amryw o ddigwyddiadau lansio er mwyn dechrau cael gwared â jac y
neidiwr, clymog Japan a’r cranc menigog oddi ar lannau Afon Dyfrdwy.
Trwy gydol mis Gorffennaf bydd llu o ddigwyddiadau, sydd ar agor i bawb drwy’r
rhanbarth, yn cael eu cynnal. Bydd ymdrech y cyhoedd yn helpu i daclo
goresgynwyr estron ar draws dalgylch yr Afon Ddyfrdwy, o’i tharddiad ym Mharc
Cenedlaethol Eryri yr holl ffordd trwy Swydd Gaer at ei aber yn Glannau y
Dyfrdwy.
Meddai’r Cynghorydd Carolyn Thomas, Cadeirydd Cydfwrdd Cynghori AHNE Bryniau
Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir y Fflint: “Yn ystod y
chwe blynedd diwethaf mae’r prosiect i gael gwared â jac y neidiwr o
ddyfrffyrdd y sir wedi bod yn llwyddiant mawr ac rydym wedi cael cefnogaeth
wych gan gymunedau’r ardal wrth frwydro’n llwyddiannus yn erbyn y goresgynnwr
estron yma.
“Mae jac y neidiwr yn rhwystro planhigion eraill rhag tyfu, gan beri i lannau
afonydd a chynefinoedd naturiol erydu, felly mae hi’n bwysig cael gwared â
chymaint â phosibl ohono.”
“Brwydr barhaus yw hon, ac mae ’na ddigonedd o gyfleoedd i wirfoddoli, felly
cofiwch gysylltu â’n swyddog bioamrywiaeth lleol i gael mwy o wybodaeth am sut
y gallwch helpu.”
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad pump o awdurdodau lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri, y Prosiect DINNS, Cadwch Gymru’n Daclus, The Welsh Dee Trust, AHNE
Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Sw Caer, Record, Cofnod a Cyfoeth Naturiol
Cymru i gyd yn gysylltiedig â threfnu’r digwyddiad.
Mae calendr o ddigwyddiadau ar gael, a bydd digwyddiadau ar draws y rhanbarth
yn cael eu diweddaru’n ddyddiol ar www.facebook.com/bigdeedaytheinvasion.
Digwyddiadau lleol i Sir y Fflint:
Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf - Atal Jac y Neidiwr - Caergwrle o 3pm tan 5pm.
Cyfarfod ym maes parcio Caergwrle, Stryd Fawr. Gwisgwch ddillad awyr agored
addas,
esgidiau glaw a menig. Bydd lluniaeth ar gael. Maer digwyddiad hwn am ddim
ond rhaid neilltuo lle o flaen llaw.
Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf - Tynnu Jac y Neidiwr a Chasglu Sbwriel - Nant
Swinchiard, Y Fflint.
Am wybodaeth am ddigwyddiadau lleol ffoniwch Sarah Slater ar 01352 703263 neu
e-bostiwch sarah.slater@flintshire.gov.uk
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Meryl Norris, Swyddog
Prosiect DINNS yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar 01352 755472 neu
merylnorris@wildlifetrustswales.org.
Capsiynau:
Llun 3, o’r chwith i’r dde: Amy Green, (Swyddog Bioamrywiaeth, Cyngor Sir y
Fflint) gyda’r Cynghorydd Huw Jones (Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir Ddinbych) ym
Mharc Gwledig Ty Mawr, Wrecsam.
Llun 6, o’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd Carolyn Thomas (Cadeirydd Cydfwrdd
Cynghori AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Hyrwyddwr Bioamrywiaeth Sir y
Fflint), Y Cynghorydd Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Rheolwr
Arweiniol dros yr Amgylchedd), Y Cynghorydd Huw Jones (Hyrwyddwr Bioamrywiaeth
Sir Ddinbych), Richard Lucas (The Welsh Dee Trust), Meryl Norris (Swyddog
Prosiect DINNS, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru) ym Mharc Gwledig Ty Mawr,
Wrecsam.
Llun 7: Meryl Norris (Swyddog Prosiect DINNS, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd
Cymru) yn rhoi pigiad yng nghoesyn jac y neidiwr ym Mharc Gwledig Ty Mawr,
Wrecsam, er mwyn ei reoli.