Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymweliad Ysgol Owen Jones
Published: 14/07/2014
Mae disgyblion ac athrawon o Ysgol Owen Jones yn Llaneurgain wedi bod ar
ymweliad â Neuadd y Sir yr Wyddgrug.
Ar 24 Mehefin, cafodd y disgyblion eu tywys ar daith o amgylch Siambr y Cyngor
a chawsant wybod sut maer Cyngor yn gweithio. Aethant i weld Cadeirydd newydd
y Cyngor, y Cynghorydd Glenys Diskin a chawsant dystysgrifau i nodi eu
hymweliad.
Mynychodd athrawon a rhieni-lywodraethwyr yr ysgol hefyd.
Llun: Llywodraethwyr, athrawon a phlant o Ysgol Owen Jones gyda Chadeirydd
Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin.