Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Is-etholiad Mostyn
Published: 09/07/2014
Caiff is-etholiad Mostyn ei chynnal ddydd Iau 1 Gorffennaf ac mae rhestr o’r
ymgeiswyr i’w gweld yn awr ar wefan y Cyngor.
Os na fyddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio leol ar 31 Gorffennaf, mae
ffyrdd eraill o bleidleisio. Cewch bleidleisio drwy’r post os gwnewch gais
erbyn 5pm dydd Mercher 16 Gorffennaf. Caiff y rhain eu hanfon drwy’r post
dosbarth cyntaf ar 17 Gorffennaf.
Os na wnewch gais am bleidlais drwy’r post erbyn y dyddiad hwn, gallwch ofyn i
rywun arall bleidleisio ar eich rhan, sef pleidleisio drwy ddirprwy. Rhaid
gwneud cais i wneud hyn erbyn 5pm dydd Mercher 23 Gorffennaf. Os oes gennych
unrhyw ymholiadau, gallwch gysylltu â thîm Gwasanaethau Etholiadol y Cyngor ar
01352 702412.