Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Addasu cartrefi
Published: 14/04/2014
Yn ei gyfarfod ddydd Mawrth (15 Ebrill) disgwylir i’r Cabinet gymeradwyo polisi
i newid y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud i addasu cartrefi ar gyfer
tenantiaid hyn ac anabl y Cyngor.
Cynlluniwyd y polisi newydd ar gyfer tenantiaid sy’n byw mewn tai i deuluoedd
neu fflat llawr uchaf, ac ystyrir pob achos yn unigol. Caiff rhai tenantiaid eu
hadleoli a phenderfynir addasu cartrefi eraill. Nod y Cyngor yw creu cydbwysedd
rhwng anghenion pob tenant a sicrhau bod ei stoc tai a’i adnoddau’n cael eu
defnyddio’n effeithiol.
Cytunwyd eisoes i wella’r amserlenni ar gyfer addasu cartrefi ac mae’r rhan
fwyaf o’r gwaith y bydd y Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd yn ymwneud â gosod
cawodydd hygyrch a lifftiau grisiau. Ar ôl cwblhau’r newidiadau hyn, mae’n
anodd wedyn gosod yr eiddo i deuluoedd ifanc heb ddad-wneud y gwaith.
Os nad yw tenantiaid yn dymuno symud o’u cartref, gallant apelio yn erbyn y
polisi a chaiff arian o Gynllun Cymell Tenantiaid ei ddefnyddio i helpu gyda’r
gost o symud cartref.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, yr Aelod Cabinet dros Dai:
“Bydd y polisi newydd yn llywio penderfyniadau’n ymwneud â gwaith addasu mawr
yng nghartrefi teuluol Cyngor Sir y Fflint a fflatiau llawr uchaf, a’i nod yw
cael hyd i’r llety mwyaf addas ar gyfer ein tenantiaid.
“Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn gwario £1 miliwn y flwyddyn yn addasu cartrefi.
Mae’n costio rhwng £3,000 a £6,000 i osod lifft grisiau a thua £4,500 i osod
cawod hygyrch. Bydd y polisi’n helpu i ymdopi â nifer gynyddol y ceisiadau a
ddaw i law i addasu stoc tai’r Cyngor.”