Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arafu traffig - Stryd Fawr Bagillt
Published: 10/07/2014
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynigion i arafu traffig ar hyd Stryd
Fawr Bagillt ddydd Mercher 16 Gorffennaf yng Nghanolfan Gymuned Bagillt.
Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 4pm a 7pm a bydd yn gyfle i’r bobl leol ac
eraill roi eu barn am y cynlluniau ar gyfer y cynllun arfaethedig i arafu
traffig.
Penderfynodd Cyngor Sir y Fflint bod angen cymryd camau o’r fath gan fod
cynifer o gerddwyr wedi’u hanafu mewn damweiniau ar y Stryd Fawr. Mae’r cynllun
yn cydymffurfio â pholisi arafu traffig yr Awdurdod a chaiff ei ariannu gan
Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
“Bydd swyddogion o’r Cyngor Sir yn bresennol yn yr arddangosfa i esbonio’r hyn
a fydd yn digwydd.
“Caiff canlyniadau’r ymgynghoriad eu hystyried a’u defnyddio wrth ddatblygu a
chynllunio unrhyw gynllun arfaethedig a gaiff ei gyflwyno.
“Rwy’n annog pobl leol i ddod draw i’r ymgynghoriad er mwyn sicrhau ein bod yn
cael amrywiaeth o safbwyntiau.”