Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth garddio
Published: 15/07/2014
Ddydd Mawrth (15 Gorffennaf) bydd cyfarfod o’r Cabinet yn clywed y bydd y
gwasanaeth garddio lle codir tâl amdano, a gyflwynwyd yn gynharach yn y
flwyddyn i denantiaid y Cyngor, yn cael ei atal dros dro nes bydd ymgynghoriad
llawn.
Bydd adolygiad llawn o’r gwasanaeth garddio newydd yn cael ei gynnal yn dilyn
problemau gyda’r prosiect gwreiddiol. Bydd tenantiaid tai gwarchod, a’r
tenantiaid sy’n anabl ac a oedd yn derbyn y gwasanaeth cyn mis Ebrill (y rheiny
heb neb i’w helpu), yn dal i dderbyn y gwasanaeth yn rhad ac am ddim tan fis
Hydref eleni.
Bydd y gwasanaeth yn dal ar gael am dâl bychan ar y telerau a gytunwyd arnynt
yn flaenorol ar gyfer unrhyw gwsmer nad oedd yn derbyn y gwasanaeth cyn mis
Ebrill 2014.
Bydd ymgynghoriad manwl gydar holl denantiaid a effeithir arnynt gan
wasanaethau lle codir tâl amdanynt yn cael ei gynnal. Ar ôl y cyfnod
ymgynghori, bydd argymhellion ar gyfer cyflwyniad graddol yn cael ei ystyried
gan y Cabinet.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu rhestr o wasanaethau lle codir tâl amdanynt
ac yn gofyn i bob awdurdod lleol, nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes, i lunio
polisi cyflwyno tâl am wasanaethau yn 2015.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet Tai: “Mae cadw gerddi mewn
cyflwr da yn un o amodau’r denantiaeth. Mae cyflwynor gwasanaeth garddio lle
codir tâl amdano wedi arwain at nifer o erddi ddim yn cael eu torri a mannau
hyll ar ystadau cyngor. Maen bwysig ein bod yn datblygu’r gwasanaeth cywir i
wneud yn siwr bod tenantiaid yn cael gwerth am arian gan y gwasanaeth garddio.