Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol
Published: 15/07/2014
Bydd adroddiad blynyddol yn asesu perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ar
draws Sir y Fflint yn cael ei ystyried mewn cyfarfod or Cabinet ddydd Mawrth
(15 Gorffennaf) a dylai cynghorwyr hefyd gytuno ar dargedau blaenoriaeth i fynd
ir afael â nhw yn 2014-15.
Mae adroddiad eleni’n tynnu sylw at rannau rhagorol or gwasanaeth gan gynnwys
cefnogaeth lwyddiannus i deuluoedd drwy Dechrau’n Deg a’r Gwasanaeth Integredig
Cymorth i Deuluoedd; cefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn y gymuned drwy
ddefnyddio ymatebion mwy hyblyg a chreadigol a chyflawni canlyniadau da ar
gyfer pobl â salwch meddwl a enillodd Glod Gofal Cymdeithasol yn 2013.
Mae Sir y Fflint yn cefnogi nifer cynyddol o blant syn derbyn gofal gyda
gwasanaeth maethu cryf, cyson, a sefydlog; yn diogelu plant ac oedolion
diamddiffyn yn effeithiol ac yn ffurfio partneriaethau gwaith da ag awdurdodau
ac asiantaethau eraill gan gynnwys sefydlu tîm wedi’i gyd-leoli gydar
gwasanaeth iechyd yn Nhreffynnon ar cynlluniau Gofal Ychwanegol.
Cynlluniau eraill syn cynnig atebion arloesol ywr gwasanaeth Byw’n Dda syn
darparu cefnogaeth hyblyg i bobl â dementia, gweithio’n integredig gydag iechyd
drwyr Tîm Ymyrryd mewn Argyfwng a sicrhau cytundeb i ddatblygu menter
gymdeithasol sy’n seiliedig ar ddyluniad.
Gan edrych ar y blaenoriaethau yn y dyfodol, mae gan y gwasanaeth
arweinyddiaeth gref sy’n gwthio’r broses o foderneiddio gofal cymdeithasol yn
ei blaen yn y sir, a nod hyn fydd sicrhau bod gwasanaethaun cyd-fynd ag
anghenion trigolion a’i nod fydd cynnig gwasanaethau mwy integredig yn enwedig
gydag iechyd. Bydd systemau’n cael eu datblygu ymhellach i sicrhau bod gan y
bobl sy’n defnyddio Gwasanaethau Cymdeithasol lais yn y broses o wneud
penderfyniadau ynglyn â’u gofal ac i gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o
brofiadau pobl o’r gwasanaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau
Cymdeithasol: “Maer Cyngor wedi llwyddo i gyflawni yng nghyd-destun heriau
gwirioneddol, gan gynnwys nifer cynyddol o blant, pobl ifanc ac oedolion
diamddiffyn gydag anghenion gofal cymhleth sydd angen cefnogaeth. Gyda phobl
wrth galon ein gwasanaeth, rydym wedi ymrwymo i roir gofal gorau posibl sy’n
cwrdd ag anghenion unrhyw un ar draws y sir a allai fod angen defnyddio’r
gwasanaethau a byddwn yn ymdrechu i osod targedau ar gyfer gwella bob
blwyddyn.”