Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arolwg o sigaréts electronig
Published: 15/04/2014
Cynhaliwyd arolwg o ddiogelwch sigaréts electronig yn ddiweddar gan Safonau
Masnach Gogledd Cymru ac wedi datgelu rhai canlyniadau sy’n peri pryder.
Prynwyd deuddeg addaswr a deg sigarét electronig mewn gwahanol rannau o’r chwe
awdurdod, a Sir y Fflint, sef yr awdurdod arweiniol, fu’n coladu’r canlyniadau.
Dangosodd y canlyniadau fod pob un yn methu’r rheoliadau diogelwch. Nid oedd
nifer sylweddol o’r addaswyr yn cydymffurfio â’r gofynion diogelwch trydanol ac
nid oedd digon o gyfarwyddiadau na marciau ynghlwm wrth wrth y sigaréts
electronig, ac nid oedd sicrwydd y byddai defnyddwyr yn gwybod sut i’w gwefru’n
ddiogel.
Bydd pob awdurdod lleol yn cymryd camau ychwanegol yn gysylltiedig â’r mater
hwn ac i sicrhau nad yw rhagor o’r teclynnau anniogel a nodwyd yn yr arolwg yn
cael eu gwerthu.
Mae’r gwasanaethau Safonau Masnach yn cynghori defnyddwyr sy’n prynu sigaréts
electronig i sicrhau bod cyfarwyddiadau diogelwch digonol wedi’u cynnwys ac i
sicrhau eu bod yn eu dilyn wrth wefru’r sigaréts, i gadw llygad arnynt pan
fyddant yn gwefru ac i beidio â gwneud hynny dros nos, ac i sicrhau hefyd fod
yr addaswr yn addas ar gyfer nodweddion trydanol y cynnyrch.
Os oes unrhyw un yn pryderu am ddiogelwch sigaréts electonig, dylent gysylltu
â’u gwasanaeth Safonau Masnach lleol drwy ffonio llinell gymorth Cyngor ar
Bopeth, sef 08454 040506 (Saesneg) neu 08454 040505 (Cymraeg)
Llun: Staff o Safonau Masnach Gogledd Cymru yn profi sigaréts electronig.
Nodiadau i’r Golygyddion
Mae nifer o achosion ledled y DU o sigaréts electronig yn mynd ar dân tra
oeddent yn cael eu gwefru. Bu’n rhaid galw’r gwasanaethu tân mewn nifer o
achosion. Mae’r sigaréts hyn yn ddyfeisiau cymharol newydd ar y farchnad a does
dim digon o wybodaeth am ddiogelwch yn cael eu cynnwys bob tro. Mae arbenigwyr
yn dweud nad yw’r dyfeisiau’n diffodd ar ôl eu gwefru’n llawn ac y gall hyn
beri iddynt orboethi.