Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llwybr Arfordir Cymru Gyfan
Published: 27/08/2014
Bydd rhan o Lwybr Arfordir Cymru Gyfan yn ailagor mewn pryd ar gyfer penwythnos
gwyl y banc mis Awst ar ôl misoedd o fod ar gau.
Oherwydd y llifogydd yn gynharach eleni roedd rhaid i Gyngor Sir y Fflint gau
nifer o rannau or llwybr yn Sir y Fflint o ganlyniad i doriadau yn yr
amddiffynfeydd rhag llifogydd. Llwybr cyhoeddus Rhif 77 ym Magillt, a gaiff ei
adnabod yn lleol fel Panton Cop, ywr olaf or rhannau a gafodd eu cau sydd
wedi’i adfer ac mae wedi bod ar gau am wyth mis o ganlyniad i nifer o doriadau
yn yr arglawdd.
Mae gwaith wedi ei wneud syn sicrhau y bydd y rhan fawr hon o Lwybr Arfordir
Cymru Gyfan yn Sir y Fflint yn agored ac ar gael i ddefnyddwyr mewn pryd ar
gyfer penwythnos gwyl y banc.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maen
wych gweld y llwybr wedi’i ailagor o’r diwedd ac yn barod ir cyhoedd ei
fwynhau dros benwythnos gwyl y banc. Mae Llwybr Arfordir Cymru Gyfan yn mynd â
thrigolion ac ymwelwyr drwy fannau gwych yn y Sir ac yn arddangos hanes gwych
yn ogystal â rhoi cyfle i’r cyhoedd gerdded drwy rannau hyfryd o gefn gwlad.