Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Lansio Rhaglen - Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014
Published: 28/08/2014
Mae rhaglen 2014 ar gyfer digwyddiad busnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint,
Wythnos Fusnes Sir y Fflint (FBW) wedi cael ei lansio.
Mewn cydweithrediad ag AGS Security Systems a Westbridge Furniture Designs,
ffocws eleni yw’r Agenda Twf a bydd yn canolbwyntio ar helpu busnesau yng
Ngogledd Cymru i ddelio â heriau newydd wrth ir sir ddod allan or dirwasgiad.
Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 7 -10 Hydref gan ganolbwyntion benodol ar
weithgynhyrchu, syn adlewyrchur rhan bwysig mae’r diwydiant yn ei chwarae yn
y rhanbarth.
Yr Economi Ranbarthol ywr thema ar gyfer dydd Mawrth 7 Hydref, gan ddechrau
gydag agoriad swyddogol gan yr Arglwydd Barry Jones, llywydd newydd o FBW, yng
Ngwesty Dewi Sant, Ewlo. Bydd siaradwyr yn tynnu sylw at bynciau gan gynnwys
llwyddiant busnes, datblygiad economaidd strategol, cyflwr y genedl a
Chynghrair Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy.
Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy ywr lleoliad ar gyfer yr Arddangosfa Fusnes ar 8
Hydref syn cynnwys stondinau i arddangos busnesau lleol yn ogystal â seminarau
ar dwf swyddi yng Nghymru, cyfryngau cymdeithasol a chyflwyniad i fusnes yng
Nghymru.
Ar 9 Hydref, mae Airbus yn croesawu Busnes Gogledd Cymru gyda siaradwyr ar
dueddiadau gweithgynhyrchu yn y DU, y byd academaidd, gweithgynhyrchu uwch a
phrentisiaethau. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu 75 mlynedd o Airbus ym Mrychdyn.
Bydd y manteision ar rhagolygon ar gyfer datblygu mentrau cymdeithasol yn cael
eu hamlygu mewn cynhadledd yng Ngholeg Cambria o 1pm hefyd ar 9 Hydref.
Gweithio gydan Gilydd ywr thema ar 10 Hydref yng Ngwesty Beaufort Park yn yr
Wyddgrug gyda digwyddiad rhwydweithio, y Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes
ar siaradwr or cwmni tai Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn sôn am gyfleoedd
newydd ar gyfer datblygu tai yn Sir y Fflint.
I gloir Wythnos Fusnes, bydd Gala Gwobrau Busnes Sir y Fflint y ceir mynediad
iddo trwy wahoddiad yn unig yn cael ei gynnal yn Neuadd Sychdyn ar 17 Hydref
gyda gwobrau ar gyfer busnesau lleol mewn 10 categori, gan gynnwys Busnes y
Flwyddyn a Pherson Busnes y Flwyddyn.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu
Economaidd i’w ddweud: Maer rhaglen yn gymysgedd gwych o siaradwyr lleol,
rhanbarthol a chenedlaethol ac yn hanfodol i unrhyw un mewn busnes yn Sir y
Fflint a thu hwnt. Eleni maer ffocws ar weithgynhyrchu, rhwydweithio lleol a
hyfforddi gyda phwyslais ar sgiliau cyflogadwyedd.
Nod y digwyddiad yw annog cysylltiadau busnes yn lleol ac yn rhanbarthol ac i
roi proffil i fusnesau o ansawdd yn Sir y Fflint ir gynulleidfa ehangaf
posibl.
Am gopi or rhaglen cysylltwch â businessweek@flintshire.gov.uk neu 01352
703219 neu www.flintshirebusinessweek.co.uk
I archebu eich lle arddangos neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â Jen Petrie
01352 703040 neu jennifer.petrie@flintshire.go.uk
Cysylltwch â Kate Catherall 01352 703221 am ragor o wybodaeth am Wobrau Busnes
Sir y Fflint.