Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Her Weiren Sip
Published: 29/08/2014
Mae Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin yn gobeithio codi
arian ar gyfer ei helusennau dewisol trwy fynd ar weiren sip hiraf Ewrop.
Bydd yn cymryd rhan yn y sialens weiren sip yn Zip World Titan, Ceudyllau
Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog sydd 500 troedfedd i fyny yn yr awyr
gyda dros 8km o weiren, yn teithio ar gyflymder o 60 milltir yr awr dros
rostiroedd, mynyddoedd, chwareli a hen weithfeydd mwyngloddio.
Bydd y Cynghorydd Diskin, sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth ar gyfer
Lymffoma Non-Hodgkin, yn mynd ar y weiren ddydd Sadwrn 6 Medi i godi arian ar
gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon a Chanolfan Ymchwil Canser y Prostad.
Dywedodd y Cynghorydd Diskin: “Rydw in cael triniaeth ar hyn o bryd, felly
rwy’n gwybod sut beth yw byw gyda chanser. Roeddwn eisiau gwneud rhywbeth
gwahanol i godi arian i elusen felly penderfynais ar y weiren sip.
“Mae pedwar ohonom yn ei wneud, fy merch Linda Diskin, Noel Barnes, clerc
cyngor cymuned Brychdyn a Bretton ai wraig Lynn. Rwyf ychydig yn ofnus, ond yn
edrych ymlaen yn fawr.
Gallwch noddi’r Cyng Diskin drwy ffonio’r Gwasanaethau Aelodau yng Nghyngor Sir
y Fflint ar 01352 702151/702153 neu e-bostio member.services@flintshire.gov.uk