Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn croesawu Taith Prydain
Published: 01/09/2014
Bydd Sir y Fflint unwaith eto yn croesawu Taith Prydain ddydd Llun 8 Medi wrth
i lawer o brif feicwyr y byd rasio drwyr sir ar Ddiwrnod 2 y digwyddiad
chwaraeon mawreddog hwn.
Bu miloedd yn sefyll ar y llwybr drwy Sir y Fflint y llynedd a disgwylir
torfeydd mawr eto yn dangos eu cefnogaeth ir beicwyr eleni wrth i’r Daith fynd
drwy ganol tref yr Wyddgrug ac ymlaen i ddiwedd y cam yn Llandudno.
Dywedodd y Cyng. Kevin Jones, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Hamdden,
“Mae Taith Prydain yn ddigwyddiad cyffrous, proffil uchel a bydd modd gweld
uchafbwyntiaur digwyddiad ar y teledu ledled y byd. Rwyf wrth fy modd y bydd
hyn ar sylw helaeth yn y wasg leol a chenedlaethol ac ar-lein yn dod â Sir y
Fflint i sylw cynulleidfa ryngwladol enfawr.
“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl leol weld y gorau o seiclo rhyngwladol ac rwyf
yn siwr y bydd torfeydd allan yn llu i fwynhau cyffro a gwefr y ras.
Disgwylir ir beicwyr gyrraedd Sir y Fflint am 12.30, gan deithio ar yr A541 o
Gefn y Bedd i Llong yna ymuno â’r B5444 Stryd Wrecsam, Stryd Fawr a Stryd Fawr
Uchaf, Yr Wyddgrug cyn mynd allan o Sir y Fflint ar yr A541 tuag at Ddinbych.
Bydd ffyrdd ar gau ar hyd y llwybr a allai arwain at oedi o tua 15-20 munud.
Bydd y B5444 Stryd Fawr a Stryd Fawr Uchaf, Yr Wyddgrug ar gau rhwng 10.00 a
13.30.
I gael manylion llawn am Daith Prydain, gan gynnwys amserlen y llwybr ewch i
wefan Taith Prydain http://www.tourofbritain.co.uk