Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Eich Dyfodol Chi Ydyw
Published: 05/09/2014
Ydi’r farchnad swyddi’n achosi dryswch i chi neu ydych chi angen cyngor ynglyn
â sgiliau a hyfforddiant? Dewch draw i ddigwyddiad hyfforddi swyddi a sgiliau
yng Nghei Connah i gael gwybodaeth ynglyn â’ch dyfodol.
Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod
â chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn
Neuadd Ddinesig Cei Connah, dydd Iau 18 Medi rhwng 11am a 3pm.
Bydd busnesau sydd â swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol ar y
diwrnod i drafod y cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd. Cewch gyngor ymarferol
am sut i ddod o hyd i waith gan gynnwys gweithdai ar dechnegau cyfweliad, creu
CV a llunio ceisiadau swyddi. Bydd partneriaid addysg bellach ac uwch hefyd yn
bresennol i drafod hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned.
Bydd cynrychiolwyr o Glwb Mentergarwch Cymunedau yn Gyntaf yn mynychu er mwyn
hyrwyddo’r cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a’r gefnogaeth sydd ar
gael i’r rheini a hoffai sefydlu eu busnes eu hunain.
Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra i rai 16-24 oed ynghyd â
mentoriaid y rhaglen Esgyn newydd sydd yn darparu cefnogaeth un-i-un i’r rheini
mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na chwe
mis ac sydd yn dod o gartrefi di-waith.
Yno i gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni sy’n dymuno dychwelyd i waith, gael
cyngor am fudd-daliadau ac edrych ar wirfoddoli fel opsiwn, bydd ein Cynghorydd
rhieni Cymunedau yn Gyntaf.
Dyma oedd gan y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu
Economaidd i’w ddweud: “Mae ein ffair swyddi a hyfforddiant yn cynnig cyngor i
unrhyw un sy’n chwilio am swydd neu a hoffai drafod â chynghorwyr ynglyn â
sgiliau a hyfforddiant. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i
bobl ennill sgiliau cyflogadwyedd i sicrhau eu bod yn gymwysedig ar gyfer y
swyddi y maent yn dymuno eu cael. Fe fydd yna weithdai, colegau a busnesau
lleol yn cynnig
cymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd ei angen”.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar
01352 703024 / 01244 846090 neu Lynda Mallon yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 01244
583718 / 07833117674.