Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygiad Fflyd - Cam 3
Published: 19/09/2014
Bydd aelodau o gabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael cais i gymeradwyor trydydd
cam ar olaf or adolygiad fflyd yn y cyfarfod ddydd Mawrth (16 Medi).
Bydd cam olaf y prosiect yn arwain at arbedion ariannol sylweddol pellach ir
Cyngor drwy ymgysylltu â phartner allanol i ddarparu holl gerbydaur Cyngor,
wrth gadwr gweithgareddau cynnal a chadw yng ngweithdy’r Cyngor ei hun yn nepo
Alltami.
Bydd y trefniant yn sicrhau ymagwedd gyson at gaffael a chynnal a chadw
cerbydau ar draws y Sir, gan sicrhau defnydd cynaliadwy o asedau cerbydau’r
Cyngor a gwell rheolaeth strategol or adnoddau hyn a’u gweithrediadau.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr
Amgylchedd:
“Maer trefniant gweithio newydd hwn yn ganlyniad ir ymagwedd gadarnhaol a
chydweithredol a gymerwyd gan y tîm rheoli ar gweithlu ac mae’n galluogir
Cyngor i gofleidio manteision gweithio mewn partneriaeth heb effeithio ar
ddarparu gwasanaethau.
“Hoffwn gydnabod yr ymdrechion a wnaed gan y tîm bychan o staff o fewn y
gweithdy ac mae eu hymateb ir her wedi caniatáu ir Cyngor ystyried y cam
cadarnhaol ymlaen hwn.