Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy
Published: 03/10/2014
Casglwyd cannoedd o fagiau sbwriel gan wirfoddolwyr a fu hefyd yn plannu coed a
bylbiau ar hyd a lled dalgylch yr Afon Ddyfrdwy yn ystod Diwrnod Glanhaur
Ddyfrdwy eleni.
Cymerodd tua 200 o wirfoddolwyr, gan gynnwys preswylwyr, a chynrychiolwyr o
sefydliadau a busnesau, ran yn y digwyddiad dau ddiwrnod, a gynhaliwyd ar 19 a
20 Medi.
Dywedodd Mike Taylor, Uwch Geidwad Arfordirol, Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y
Fflint: Casglodd ceidwaid gwirfoddol Sustrans 37 o fagiau rhwng Queensferry a
Saltney.
Casglodd ceidwaid Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint dros 40 o fagiau a
chasglodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru sbwriel ar y traeth yn Nhalacre ochr yn
ochr â staff a gwirfoddolwyr yr RSPB a’r Haven.
Cafodd plant ysgol o Ysgol Uwchradd Cei Connah eu canmol gan y ceidwaid
arfordirol ynghyd â staff a myfyrwyr o Goleg Cambria, a oedd yn gweithio yng
Nghei Connah a’r dalgylch.
Lansiwyd y Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy yng Nghlwb Pêl-droed Caer gan fod y
digwyddiad yn cynnwys asiantaethau partner ar draws Caer, Gogledd Cymru a
Chilgwri, gan gynnwys Gorllewin Sir Gaer a Chaer, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor
Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyngor Gwynedd ac fe’i
cefnogir gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Mae
Diwrnod Glanhau’r Ddyfrdwy eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a hoffwn
ddiolch in holl bartneriaid am eu gwaith caled yn gwneud iddo ddigwydd.
Mae’r Afon Ddyfrdwy yn rhedeg drwy lawer o wahanol ardaloedd yng Ngogledd
Cymru ac maen wych gweld partneriaeth drawsffiniol mor llwyddiannus.
Ychwanegodd Bev Dyer, Swyddog yr Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru: Mae’r Afon
Ddyfrdwy a Moryd y Ddyfrdwy yn ardal boblogaidd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr,
ac yn ganolbwynt pwysig ar gyfer pysgota a chwaraeon dwr eraill, yn ogystal â
chartref i fywyd gwyllt prin.
Bydd gwaith pwysig yr holl wirfoddolwyr ar sefydliadau syn rhan o Ddiwrnod
Glanhau’r Ddyfrdwy yn mynd yn bell o ran helpu i wneud yn siwr y gall yr ardal
barhau i gael ei mwynhau gan bobl yn ogystal â bod o fudd i fywyd gwyllt ar
economi leol am flynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd Jo Holden o Asiantaeth yr Amgylchedd: Roedd Diwrnod Glanhau’r
Ddyfrdwy yn ddigwyddiad gwych. Tynnodd sylw at yr holl waith gwych mae
Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor
Gorllewin Swydd Caer a Chaer, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Caer a Cadwch
Gymrun Daclus yn ei wneud i wellar amgylchedd lleol. Maen dangos faint y
gallwn ei gyflawni drwy weithio gydan gilydd ac yr wyf yn gobeithio y bydd yn
annog pobl i barhau i wirfoddoli a chymryd diddordeb mewn natur.
Mae gwaith i wellar amgylchedd yn yr ardal hon yn parhau ac rydym yn edrych
ymlaen i fod yn gysylltiedig â Phartneriaeth Dalgylch Llanwol Dyfrdwy, sydd â
“Swyddog Moroedd Byw” yn dechraur wythnos nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd
gennym berson penodol i ddechrau prosiectau ar sbwriel y môr a materion tir
halogedig o amgylch Moryd y Ddyfrdwy ac i annog gwaith partneriaeth pellach
gyda phobl leol a grwpiau gwirfoddol.
Nodyn ir Golygydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dwyn ynghyd waith Cyngor Cefn Gwlad Cymru,
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Maen gyfrifol am
sicrhau bod
adnoddau naturiol Cymru yn cael eu cynnal mewn modd cynaliadwy, eu gwella au
defnyddio, yn awr ac yn y dyfodol.