Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Artist Preswyl y Byd Coll
Published: 07/10/2014
Bydd plant ysgolion lleol yn ymuno ag artist a dylunydd gemwaith adnabyddus i
archwilio’r thema ‘Byd Coll… Lost Worlds’ drwy gelf.
Bydd disgyblion o Ysgol Croes Atti, Y Fflint, Ysgol Terrig Treuddyn ac Ysgol
Mornant Picton Gwesbyr yn gweithio ochr yn ochr ag Angela Evans fel rhan o
gynllun artist preswyl a fydd yn dod i ben gydag arddangosfa yng Nghlwyd Theatr
Cymru o 21 Hydref – 18 Tachwedd i arddangos gwaith yr artist a’r disgyblion.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg: “Mae hwn yn
gyfle gwych i ddisgyblion ac athrawon weithio ochr yn ochr ag artist
proffesiynol a datblygu eu sgiliau. Mae’r prosiect yn amlygu pa mor effeithiol
yw cydweithio rhwng ysgolion er mwyn annog creadigrwydd y disgyblion.”
Ariennir y cynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir y Fflint.
Nodyn i Olygyddion
Cysylltwch ag ysgolion unigol am gyfleoedd i dynnu lluniau – am wybodaeth
bellach cysylltwch â Trefor Lloyd Roberts 01352 704027 neu
Trefor.l.roberts@flintshire.gov.uk
Dyddiadau
6 – 9 Hyd Ysgol Croes Atti
Agoriad yr Arddangosfa: Clwyd Theatr Cymru Dydd Mercher 22 Hydref am 1pm.