Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Swyddi Sir y Fflint; Digwyddiad Sgiliau a Hyfforddiant
Published: 13/10/2014
Mynychodd cann oedd o bobl ddigwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant i gefnogi
cyflogaeth yn Sir y Fflint yn Neuadd Ddinesig Cei Connah.
Roedd y digwyddiad rhyngweithiol wedi’i anelu at oedolion a phobl ifanc sy’n
chwilio am waith a chawsant gyfle i gyfarfod â chyflogwyr, sefydliadau addysgol
ac asiantaethau cymorth.
Roedd dros 700 o swyddi gwag ar gael, mewn amryw o sectorau a bu’r ymgeiswyr yn
manteisio ar gymorth ‘ar y diwrnod’ i lenwi ffurflenni cais.
Roedd y cyflogwyr yn cynnwys; ASDA Queensferry, Westbridge Furniture a Ralawise
ac fe drefnwyd nifer o gyfweliadau ar y dydd. I’r rheiny a oedd yn chwilio am
help i fod yn fwy cyflogadwy neu i ennill sgiliau entrepreneuriaeth, roedd
gweithdai ar gael hefyd yn rhoi cyngor ymarferol.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint, Y Ganolfan Byd
Gwaith a Gyrfa Cymru. Roedd Cymunedau’n Gyntaf Sir y Fflint yno hefyd yn
arddangos eu gwaith gan gynnwys y rhaglen LIFT newydd, sydd wedi’i datblygu i
gynorthwyo pobl sydd wedi bod yn ddiwaith ers amser hir i ddychwelyd i’r
gwaith. Yn ogystal â gwneud ceisiadau am swyddi gwag, roedd modd i geiswyr
gwaith gyfarfod â chyflogwyr, darparwyr addysg a nifer o sefydliadau cymorth
eraill a’u holi,
Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygiad
Economaidd: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a daeth dros 500 o bobl
drwy’r drysau. Bu’n siawns i edrych ar fyd gwaith mewn ffordd wahanol a pha
swyddi a sgiliau sy’n angenrheidiol yn arbennig mewn meysydd perthnasol.”
Ychwanegodd y cynghorydd lleol Paul Shotton: “Roedd y lleoliad yn llawn dop a
bu’n ddiwrnod llwyddianus iawn. Siaradais â nifer o ymwelwyr a oedd wrth eu
boddau â’r cyngor a oedd ar gael ac yn hapus iawn â’r digwyddiad.”