Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ynni Adnewyddadwy
Published: 15/10/2014
Mae’n bosibl y gallai Cyngor Sir y Fflint ddechrau creu ei ynni adnewyddadwy ei
hun os bydd aelodau cabinet yn rhoi sêl bendith i ddechrau adnabod safleoedd
addas ar gyfer prosiectau mawr yn eu cyfarfod ddydd Iau (16 Hydref).
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymhellion ar gyfer gosod systemau ynni
adnewyddadwy, megis paneli solar, tyrbinau gwynt, systemau ynni dwr a bwyleri
biomas i gynhyrchu trydan am nifer o flynyddoedd. Maer cymhellion yma, ynghyd
â chymorth gan sefydliadau llywodraeth leol i gynllunio prosiectau ynni
adnewyddadwy mawr, wedi helpu’r Cyngor i ddechrau cynllun datblygu 10 mlynedd i
gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae gan y Cyngor asedau tir sylweddol, yn amrywio o ffermydd i safleoedd
tirlenwi wedi eu hadfer, parciau a choetiroedd sydd âr potensial i naill ai
gael eu datblygu neu i gyfrannu at ddatblygu dyfodol mwy cynaliadwy a
proffidiol i’r sir. Yn ogystal, mae cyllid ychwanegol ar gael i annog
awdurdodau lleol i sefydlu cynlluniau o’r fath.
Mae Strategaeth Lleihau Carbon y Cyngor yn gosod canllawiau a thargedau i
leihau allyriadau carbon adeiladau’r sir o 60% erbyn 2021 ac elfen bwysig or
strategaeth hon yw datblygu prosiect ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd: “Mae
manteision tymor hir enfawr i brosiectau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys
gostyngiad mewn costau ynni, llai o allyriadau carbon, sicrwydd cyflenwad a
lleihad yn risg chwyddiant costau gwasanaethau. Gall y prosiectau hyn hefyd
helpur Cyngor i weithredu’r Strategaeth Lleihau Carbon a rhoi budd i drigolion
Sir y Fflint.