Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014
Published: 18/11/2014
Cafodd pwerau deddfwriaethol newydd syn effeithio ar Gyngor Sir y Fflint mewn
perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol eu trafod mewn cyfarfod o’r Cabinet
heddiw (dydd Mawrth 18 Tachwedd).
Yn ddiweddar daeth Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
i rym gan symleiddior dull gweithredu a galluogi camau lleol effeithiol i
reoli a lleihau ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Maer ddeddfwriaeth yn cyflwyno pwerau newydd y gall cynghorau eu defnyddio i
fynd ir afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys Sail Absoliwt Newydd
ar gyfer Meddiannu i gyflymu dadfeddiannu tenant pan fo ef neu hi, aelod arall
or aelwyd neu ymwelydd wedi cael euogfarn am drosedd ddifrifol, megis delio
mewn cyffuriau yn yr eiddo.
Dau ychwanegiad newydd arall yw’r Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol a’r
Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus.
Mae Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol yn targedu’r sawl syn gyfrifol am
broblemau neu niwsans parhaus syn effeithio ar ansawdd bywyd y gymuned. Mae
Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn gosod amodau ar y defnydd a wneir o
ardal, megis yfed ar y stryd, cwn yn crwydro mewn parciau neu grwpiau o bobl
syn achosi problemau swn mewn mannau agored, pan ystyrir y materion hynny’n
niweidiol ir gymuned leol.
Mae Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd syn ymgymryd â gwaith cymunedol, gan gynnwys
Swyddogion Tai Cymdogaeth, Wardeiniaid Cymdogaeth, Cydlynwyr Ymddygiad
Gwrthgymdeithasol a Swyddogion Rheoli Llygredd wedi eu hawdurdodi i wneud y
gwaith gorfodi.
Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr tai cymdeithasol eraill i
leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd system newydd o adolygu hefyd yn cael
ei sefydlu ar gyfer dioddefwyr os teimlant nad yw eu cwynion yn cael sylw
teilwng.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y
Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Maer Cyngor wedi ymrwymo
i fynd ir afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dylai’r cyfreithiau newydd
yma fod yn fwy teg i ddioddefwyr drwy ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i
swyddogion fedru dadfeddiannu tenantiaid syn achosi problemau. Maen nhw hefyd
yn ymwneud â phroblemau mewn mannau agored yn y Sir ac yn rhoi mwy o bwerau i
gymryd camau gorfodi yn erbyn pobl y mae eu hymddygiad nhw’n achosi niwsans.”