Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adfywio Glan Afon Saltney
Published: 27/11/2014
Gwaith adfywio ar Lan yr Afon yn Saltney yn gosod yr ardal ar Lwybr Arfordirol
Cymru.
Mae Ceidwaid Arfordirol o Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn
gweithion galed yn Saltney, yn cyflwyno prosiect aml-asiantaeth yn seiliedig
ar themâu treftadaeth, celfyddyd, mynediad a bywyd gwyllt.
Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor, Cyngor Tref
Saltney, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadwyn Clwyd, Awdurdod Datblygu Gwledig Sir y
Fflint a Sir Ddinbych.
Bydd y prosiect yn digwydd mewn dwy gam, a bydd y tir, sy’n berchen i Gyngor
Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn cael ei drawsnewid. Fe ychwanegwyd
lôn o 30 o goed, ynghyd â golygfan, llwybrau troed, nodwedd arforol a phrosiect
peillio gwrych arbennig. Mae cerflun unigryw o weithiwr o hen ffatri Henry
Woods (a oedd yn cynhyrchu cadwyni ar gyfer llongau) wedi cael ei chreu gan y
cerflunydd Mike Owens.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Gyda
golygfeydd tuag at y Ddyfrdwy mewn i Sir y Fflint ac allan i Gymru, mae’r safle
hwn yn darparu mynedfa wych i Gymru o Gaer ar gyfer cerddwyr, beicwyr a
theuluoedd a bydd yn ffordd wych i ailgysylltu cymunedau Saltney a Saltney
Ferry at yr afon.”
Canmolodd Karen Rippin, Ceidwad Arfordirol ac arweinydd y prosiect, Cyngor Tref
Saltney ar trigolion lleol ar gymuned fusnes am eu cefnogaeth frwdfrydig ar
gyfer y cynllun:
“Hebddynt, ni fyddem wedi cyflawni unrhyw agwedd ar y prosiect adfywio
arfordirol, meddai Karen. “Fe gysylltodd Cynghorwyr Sir lleol dros Saltney â
ni yn dilyn y Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy i weld a oedd modd i ni drawsnewid y
safle. Cytunodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn syth a chychwynnodd y
gwaith o chwilio am bartneriaid cyllido.”
Fe ymunodd Cadwyn Clwyd i gefnogir cynllun ac fe sicrhaodd y mwyafrif or
cyllid ar gyfer y prosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu
Gwledig (EAFRD) drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.
“Maen gynllun a safle gwych meddai Sarah Jones, Swyddog Treftadaeth a’r
Amgylchedd Cadwyn Clwyd. “Roeddem yn fwy na pharod i gefnogir prosiect
adfywio rhagorol hwn ar ran mor hanesyddol o arfordir Cymru syn cysylltun mor
dda ir Llwybr Arfordir Cymru.”
Yn ystod ail gam y prosiect, fe osodir pedwar cerflun gan Michael Johnson a
ddyluniwyd gyda chefnogaeth myfyrwyr Ysgol Uwchradd Saltney, Grwp Hanes Saltney
a Saltney Ferry, a llwybr sain, meinciau a phaneli dehongli.
Mae sefydliadau eraill syn cefnogir cynllun yn cynnwys Cais, Go Outdoors,
Ymddiriedolaeth Groundwork, Edward Homes, Masnachwr Metel Sgrap P Dobbins a Tag
Industry.
Mae agoriad mawreddog or safle wedi’i drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd.
Ger y cerflun yn y llun mae Karen Rippin a’r cerflunydd Mike Owens